anfonwyd eilwaith ddirprwyaeth at Mr. Williams gyda'r un cais, a chafwyd caniatad yn rhwydd. Rhoddodd iddynt hanner acer o dir ar brydles o 99 mlynedd, am 5s. y flwyddyn, ac adeiladwyd arno gapel y Tabernacl. Gosodwyd y gwaith yn gontract i'r isaf ei bris, sef Mr. Edward Roberts, adeiladydd. Y pensaer (architect) ydoedd Mr. Ellis Williams o Faentwrog Swm y cymeriad ydoedd £1,440. Ond aeth y gost yn £390 yn fwy na'r cymeriad, ac ni chynhwysai hynny'r gost allanol gyda'r muriau. Cwblhawyd y gwaith erbyn diwedd y flwyddyn 1861, ac agorwyd ef ar y Saboth cyntaf o Ionawr, 1862, pryd y pregethwyd am 10 yn y bore gan y gweinidog, y Parch. Thomas Owen, oddiar Psalm xliii. 4, "Yna yr af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd: a mi a'th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw." Symudodd 140 o aelodau o'r Garth i'r Tabernacl; yn eu plith yr oedd y Parch. Edward Davies, ynghyda'r blaenor hynaf, ac un o sefydlwyr y Garth, Mr. John Richards. Ymhlith y rhai a enwir fel prif hyrwyddwyr y symudiad ceir Mri. John H. Williams, y Foundry; Bennet Williams, yr ysgrifennydd, William Williams, a Capten Griffith Griffiths. Yr oedd y swm o £147 wedi ei gasglu cyn ymadael o'r Garth, a chymerodd y fam—eglwys arni ei hunan dri chant punt o'r gost. Dewiswyd y Mri. John Henry Williams, Robert Rowlands, a William Williams, yn flaenoriaid. Rhifai aelodau'r Ysgol Sabothol 256. Ar y cyntaf yr oedd y Tabernacl yn "daith" gyda Horeb,—lle oedd yn flaenorol yn daith gyda Bethel a Chwmystradllyn—a bu felly hyd nes yr adeiladwyd capel y Borth yn 1874, pryd y newidiwyd y daith o'r mynydd i'r môr, a rhoddwyd Horeb gyda Phrenteg. Yn y flwyddyn 1862 daeth y Parch. David Williams, oedd gyda'r Genhadaeth Gymreig yn Llunden, oherwydd gwaeledd ei iechyd, i breswylio i Borthmadog, ac ymaelododd yn y Tabernacl; ond ymhen tair blynedd derbyniodd alwad oddi wrth eglwys Tremadog.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf o oes eglwys y Tabernacl, ychwanegwyd at ei rhif 13 o'r newydd, a 36 trwy docynau. Casglwyd, rhwng popeth, yr un flwyddyn,