arnynt, cymeraf hwy'n dyner, ac a'u dodaf i lawr yma fel ag y maent. Ynddo dywed y gweinidog am yr eglwys:—Sefydlwyd hi ar ddiwedd diwygiad grymus; ni phrofodd hi yr un adfywiad nerthol, ac ni fu erioed mewn sefyllfa o gysgadrwydd diymadferth nac o farweidd—dra llygredig. Cadwyd hi oddi wrth rwygiadau a therfysgoedd blinion. Cafodd ei hun droion yng ngwyneb anhawsderau a pheryglon. Cyfarfu â rhai profedigaethau, a gwybu rhywbeth am erlidiau."
Bu farw yn ystod y flwyddyn honno wyth o aelodau, ac yn eu plith y Parch. Edward Davies, ac am dano ef dywed y gweinidog ei fod yn
"Un o'r dynion mwyaf duwiol, tangnefeddus, a chariadus a adwaenasom erioed; ac y mae ein colled a'n hiraeth am dano yn fawr iawn."
1895. Ychwanegu 27 o aelodau cyflawn at yr eglwys. Marw naw o frodyr a chwiorydd, "distaw, a thawel, a charedig."
1896. Marw deg—chwiorydd bron i gyd—o aelodau cyflawn. Rhai tawel neillduedig oeddynt.
Anaml y clywid eu llef ar yr heol nac yn y capel. Yr oedd mesur helaeth o naws crefydd ar eu heneidiau wrth iddynt fyw, ac arogl bywyd tragwyddol ar eu hysbrydoedd wrth iddynt farw.
1897. "Profodd rhai o honom bethau blinion iawn. Bu farw deg o aelodau cyflawn yr oedd eu cymeriadau yn lân. Ni thynasant warth ar eglwys Crist, na chwmwl ar eu henwau eu hunain.'
1898. Sefydlu cymdeithasau newyddion: (a) Y Gymdeithas Ariannol tuag at gynorthwyo i dalu'r ddyled. (b) Cymdeithas Ddirwestol y Cyfundeb. (c) Cymdeithas y Dorcas, er porthi'r newynog a dilladu'r noeth. (d) Seiat y bobl ieuanc.
1899. Mr. John Roberts yn dechreu pregethu.
1900. Blwyddyn olaf y ganrif. Dywed yr Adroddiad:—"Gwlad fechan dylawd a thywyll dros ben, oedd Cymru, gan mlynedd yn ol, a dichon nad oedd yn