Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai fel arall y mae. Meddwn rai personau llwyddiannus, a diolchwn am danynt, oblegid y maent yn wir haelionnus. Bu ar hyd y blynyddoedd yn flaenllaw i helpu pob sefydliad crefyddol, dyngarol, ac addysgol, a phob symudiad daionus yma ac oddi yma.

Nid oes ynddi genfigen na malais at neb na dim rhinweddol. Câr ei chymdogion yn wresog, a daw mor agos ag unrhyw un y gwn i am dani at garu ei gelynion.'

Y gweinidog yn hysbysu ei fwriad o dorri ei gysylltiad â'r eglwys, wedi ei gwasanaethu am 30 mlynedd o "dangnefedd pur, o gydweithrediad hollol, ac o fendithion lluosog."

1909. Y Gweinidog, ar ol gwasanaethu'r eglwys am ddeng mlynedd ar hugain, yn ymddiswyddo. Yn ystod y cyfnod hwnnw cyfrannodd yr eglwys y swm o £4,400 at achosion o'r tu allan i'w hangenion ei hun. Yr oedd hanner y swm hwn wedi ei gyfrannu yn y deng mlynedd diweddaf. Wedi gwasanaeth mor werthfawr, am gyfnod mor faith a llafurus, nis gallai'r eglwys ollwng ei gafael o'i gweinidog heb wneuthur amlygiad teilwng o'i theimladau tuag ato, a'i gwerthfawrogiad ohono. Gwnaed hynny trwy gyflwyno, ym mis Mai, bureau dderw hardd i Mr. Roberts, a llestri tê a choffi arian i Mrs. Roberts. Cyflwynwyd iddynt hefyd Anerchiad hardd, i lefaru mewn geiriau ei pharch iddo. Ynddi dywed yr eglwys:—"Pregethasoch efengyl bur ac athrawiaeth iachus gyda nerth, goleuni, ac yn aml gyda'r coethder barai i'r meddylddrychau ymddangos fel gemwaith aur. Sicr ydyw na lygrasoch neb, ond cadarnhasoch eneidiau y disgyblion. Profasoch yn weledydd craff, ac yn wyliwr ffyddlawn. Fel gweinidog cymwys y Testament Newydd, cymerasoch lawer o boen erom ni. Yn arbenig y mae gennym i gydnabod y pwyll a'r doethineb a amlygwyd gennych, a'r medr gyda pha un y llwyddasoch i gadw undeb yr ysbryd yng nghwlwm tangnefedd. Dilynasoch y pethau a berthynent i heddwch gyda phenderfyniad a arwyddai eich mawr bris arno. Dwfn fu eich cydymdeimlad â'r trallodedig. Dilys gennym i fendith yr hwn oedd ar ddarfod am dano ddyfod arnoch a pharasoch i galon y weddw lawenychu."

Ond er ymddiswyddo parhaodd i gyflawni'r gwaith hyd nes y pennododd yr eglwys olynnydd iddo, ac efe'n arweinydd iddi.