Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Mr. Atkins, un o Gwmpeini penaf Gwaith Sirhowy, yn frawd y'nghyfraith i Mr. Munkas.) Enw'r gwr a anfonasant oedd Lawrence Hughes, founder, yr hwn a dreuliodd weddill ei ddyddiau yn Nhredegar—a gwnaeth lawer o les trwy ddysgu eraill. Goruchwyliwr y Ffwrnesi oedd William Jones, yr hwn a adnabyddid wrth yr enw Wil Sion y Gof. Prif Oruchwyliwr, Manager, oedd Mr. Richard Fothergill, a'r Talwr, Cashier, oedd Mr. Roland Fothergil. Y pwyswr cyntaf oedd Mr. Henry Jones, tad Mr. Richard Jones, Tredegar. Yr ysgrifenyddion yn swyddfa'r gwaith oeddynt Mr. Hunter, tad y diweddar Samuel Hunter, Chwegfaelwr, Grocer, Tredegar, a Mr. Morgan Rees, tad Mr. John Rees, Crydd, Tredegar, a Mr. Stephen Ells. Wel, dyna'r oll a ellir ar y pen hwn.

v

CYNNYDD Y GWAITH.

Yn y flwyddyn 1806 adeiliadwyd y Ffwrnes rhif 4 No. 4. Ac yn y flwyddyn 1807 adeiladwyd y pudling Mae yn naturiol ddigon gofyn yn y man hyn, beth oeddynt yn ei wneuthur o'r metel yn ystod pum mlynedd o amser ? Gellir ateb——eu bod yn ei werthu, fel yr oedd Cwmpeini Peny-y-cae a Sirhowy, a'i gludo ar gefnau'r mulod i Weithfeydd Haiarn Merthyr, canys yn yr amser hwnw nid oedd un ffordd o Dredegar i Ferthyr, namyn ffordd geffyl neu droedffordd. Y ffordd i Ferthyr y pryd hwnw oedd heibio i Balasdŷ Mr. Theophilus Jones, lle mae W. Bevan, Ysw. yn byw yn awr, a thrwy Rasa Brynoer a Phantywaun. Yr oedd olion rhyw hen ffordd i'w gweled o Bantywaun yn myned heibio Nantybwch a thros Dwyn y Duke—a'i chyfeiriad tua'r Feni. Galwai yr hen drigolion hi, "Y ffordd Rhufeinig." Ond y mae yn fwy na thebyg mae fforth y Porthmon, Drover, oedd hon yn yr amser gynt. Ond rhag crwydro fel hyn, awn at y testyn