100
Hanes ac ystyr Enwau
gefn Seiriol wrth fyned a dychwelyd : felly galwyd y neill “ Seiriol Wyn,” a'r llall yn “ Cybi Felyn , " medd
traddodiad. Ac, oherwydd yr arferiad yma y galwyd y ffynonau wrth yr enwau blaenorol. Coed Goleu . — Bu yma frwydrau gwaedlyd gan y Bry: thoniaid a'r Daniaid oddeutu y fl. 872. Gelwir hi
weithiau Bangoleu yn Môn. Tybia y Parch . O. Jones, yn " Hanes y Cymry," mai yn nghymydogaeth Pen y Greigwen y cymerodd hon le ; ond fod y fuddugoliaeth
wedi ei henill gan Rhodri yn y lle a elwir Manegid yn Môn.
Y mae Coed Goleu wedi derbyn yr enw oddiwrth
Bangoleu, yr hwn fu yn gwersyllu yma. Ceir amryw leoedd yn terfynu ar y plwyf hwn sydd wedi derbyn en
henwau oddiwrth y frwydr hen - Bryn goleu, oddiwrth Bangoleu ; Gadfa, oddiwrth y frwydr ; Pant y moch, oddiwrth Pant yr Och. Yn agos i Tre'r Beirdd y mae
colofn fawr a elwir Maenaddwyn, h.y., colofn fendiged ig; neu hawddgar - saif yn uchel iawn ; tybia Mr. Row . lands ei bod yn un o'r Meini Gwyr. PLWYP GWREDOG .
Mae y plwyf yma yn sefyll oddeutu milldir i'r de ddwyrain o Lanerchymdd . Dywed un awdwr fel hyn am ei darddiad :-" The name may be derived either from
gwar (gwareddawg), — tame, mild, gentle ; orfrom gwae red,-a declevity.” Cysegrwyd yr eglwys i St. Mair .. Plwyf COÉDANA .
Saif y plwyf hwn rhwng Llangefni a Llanerchymedd. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru
i St. Anne, neu Aneu, neu Anef ap Caw Cawlwyd .