Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/113

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Lleoedd yn Mon.

105

ganrif. Efe ( St. Mechyll ap Echwydd) a adeiladodd eglwys Llanfechell. Yr oedd " Capel Lligwy" yn y plwyf hwn, ond yn awr y mae yn adfeilion. PLWYF RHOSBEIRIO .

Gorwedda y plwyf hwn oddeutu tair milldir i'r gor llewin o Amlwch. Tardda ei enw oddiwrth fod yr eg lwys wedi ei chysegru i St. Peirio , mab Caw o Twrcelyn , Llanerchymedd, yn fl. 605. PLWYF BODEWRYD . Mae'r lle hwn oddeutu pedair milldir i'r gorllewin o Amlwch . Tardda yr enw oddiwrth fod rhedfa afon yn voo Bodewryd, is the man agos yno : ac, fel y dywed un-

sion at the rippling ford .” Cysegrwyd yr eglwys i Mar , Bodewryd, &c. , mor foreu a'r fl. 1291 O.C.

Yn y

66

Record of Carnarvon ," ceir fod plwyf Bodewryd yn

cael ei alw " Bettws Ysgellog ; " ac fod ei ddegymau yn perthyn i Briordy Penmon . PLWYF AMLWCH .

Saif y plwyf yma oddeutu ugain milldir i'r gogledd orllewin o Beaumaris. Y mae'r plwyf yn saith milldir

a haner o hyd, a'i arwynebiad yn 9220 o erwau, a'r

boblogaeth oddeutu chwe' mil a haner . Gorwedda tref Amlwch mewn dyffryn , fel Jerusalem a'r mynyddau o'i hamgylch. Terfynir hi o du y dwyrain gan fynydd Eilian ; o du y dehau gan gloddfa efydd en

wog Mynydd Parys ; ar y gorllewin gan fynydd Tŷ Croes, neu le o'r enw Dinas (Castell) ; ac ar y tu gog leddol gan fôr Iwerddon. Nis gellir myned heibio i'r Ddinas heb wneud sylw neillduol arni, oblegyd dyma'r lle, fel y tybia rbai, y rhuthrodd y Rhufeiniaid i'r Ynys