Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/117

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Lleoedd yn Mon.

109

yn tarddu oddiwrth yr amgylchiadau hyny, pa rai a ach lysurasant yr holl enwau rhyfelgar a nodwyd. Yr ystyr

yw, “ Aml Ochenaid ,” yn tarddu oddiwrth aml ochen eidiau y clwyfedigion , neu ocheneidiau y perthynasau ar ol y lladdedigion yn y frwydr hon .

Gwel yr un

sylwadau gan " Lucyn Ddu , ” yn mhapur y Cymry , o'r enw

“ “ Lais y Wlad ,” ers oddeutu deuddeng-mlynedd

yn ol; hefyd, gwel "Hanes Cymru , " gan y Parch. O. Jones. Mewn hen gof-lyfr o'r enw The Record of Car narvon, yr hwn a wnaed odddutu y fl. 1451 0.C. , o dan

deyrnasiad Harri VII. , ceir fod Amlwch yn cael ei

galw yn Amlogh. Dywedir fod hen lawysgrif ladin aidd ar gael heddyw, yr hon sydd yn cadarnhau yr ystyr Aml- och, Credwn fod cynnifer o engreifftiau ag a nod

wyd yn ddigon i ffurfio barn lled gywir mai Aml Ochen

aid yw y gwir ystyr. Cysegrwyd yr eglwys i Elaeth Frenin yn y seithfed ganrif: adeiladwyd yr un bresen ol yn 1801. Yr enw cyntaf oedd Llan Elaeth . Oddeutu y fl, 1272, yr oedd Amlwch yn lle pobl

ogaidd. Y prif fasnach y pryd hyny oedd, Silk Manufacture ; ac oddeutu y f. 1348, pryd y bu pla mawr trwy holl Europe, ac y bu farw dros 60,000 yn Llundain, y torodd y pla hwn yn Amlwch . Pan

oedd llong rhyfel yn myned heibio i'r lle hwn yn llawn dan o filwyr, digwyddodd i rai o'r milwyr farw o y pla hwn, a thaflwyd hwy i'r môr gyrwyd hwy

gany tonau i'r lân at Porth Careg Fawr. A phan oedd preswylwyr glan y môr yn chwylio am wreck ar ddydd yr Arglwydd, cawsant afael ar gorph un o'r milwyr, a llusgwyd ef i'r lan ganddynt. Bu hyn yn achlysur i'r pla ddod i Amlwch, a gwneyd dif

rod ofnadwy ar y trigolion. Bu cannoedd feirw dano. Galwyd y pla wrth yr enw “ Pla y Cap