Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth Seiriol Wyn; ac hefyd yn "Pufin Island," oddi- with adar sydd yn ymddangos arni o'r enw Puffins, Dywedir fod y môr wedi gorlifo yn y seithfed ganrif dros y lle y safai Tyno Helig—iselder prydferth Helig Foel, ap Glanawg, ap Gwgan Gleddyfrydd, ap Caradog Freichfras, ap Llyr Morini, ap Einion Yrth, ap Cunedda Wledig—ac oherwydd hyny galwyd y lle hwn hyd heddyw, "Traeth y lafan" (lavan sands); ond y gwir ystyr yw "Traeth y llefain."

Adnabyddir Ynys Môn wrth wahanol enwau. Gelwir hi genym ni y Cymry, "Môn," "Ynys Fôn," a "gwlad Môn." O berthynas i wreidd-darddiad yr enw Môn, ceir amrywiol farnan: dywed yr hynafiaethydd Mr. OWEN WILLIAMS, yr addolid Hu Cadarn yn Môn fel y duw penaf, o dan rith tarw neu fuwch, neu bob un o'r ddau; a chan fod Môn yr un ystyr a buwch, felly oddi. wrtha Hu Gadarn, yr hwn oedd ar lun ych, y cafodd Môn ei henw—a geilw Taliesin Ynys Môn yn "Ynys Moliant". Barna Philotechnas fod iddo darddiad Groegaidd o'r gair "Monos," unig (Monk); yn dangos safle yr ynys wedi ei gwahanu oddiwrth Gwynedd par orlifodd y môr dros yr iseldir crybwylledig. Edrychid ar ein hynys fel mynach, yn neillduedig oddiwrth wledydd eraill Cymru. Cadarnhà Dr. WILLIAM OWEN PUGHE yr un syniad an ystyr yr enw Mon—"That is a separate body, or individual; an isolated one; or, that is separate."

Bernir gan eraill iddi gael ei galw gan y Galiaid, y rhai a boblogasant yr ynys hon gyntaf, wedi iddynt ei gweled yn barth Olaf, nea bellaf oddiwrth y fan y trigent, sef Gaul, galwasant hi yn "Fôn Ynys", nau "Fon Wlad," h.y.., y wlad olaf.—Gwel "Sylwedydd,"