Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am Ionawr, 1831, cyf. I. tudal. 1. Cynygia y Parch. HENRY ROWLANDS (Mona Antiqua) yr un ystyr, ei fod yn tarddu o'r gair " bôn," sef terfyn eithaf, neu gynffon (tail). Y mae'n ffaith fod B yn newid i M ac F, yn ol y gyfundrefn reolaidd o newid y cydseiniaid yn yr iaith Gymraeg, fel ei gosodir i lawr gan y Dr. W. O. PUGHE, awdwr y Geirlyfr Cymraeg, yn yr engreifftiau canlynol:—bara , fy mara, dy fara; ac felly yn yr un dullwedd , ac wrth yr un rheol, y dywed y Cymro—"Gwlad Fôn," ac "Ynys Fôn," ac os efe oedd yn darlunio sefyllfa neu safle y wlad yma fel ynys bellaf, yr oedd yn naturiol iddo ddyweyd, dyma'r bôn, neu'r gynffon, sef y pen eithaf, neu'r fôn wlad.

Y Rhufeiniaid yn ngoresgyniad yr ynys hon a wnaethant yr enw Môn yn fwy cydseiniol ag ieithwedd neu y priod-ddull Lladinaidd, trwy ychwanegu y llafariad A at Môn, ac a'i galwasant yn "Mona Insula." Y mae'r enw Lladinaidd yma wedi achosi dadleu mawr yn mhlith yr hynafiaethwyr penaf. Polydore a dybia mai'r un yw Mona ag "Ynys Manaw ," (Isle of Ma ,) yr hon ynys a elwir gan Pliny, yn Menabia; gan Orosious a Beda, yn Menavia–Pilchard's way. Barna Gildas ei fod yn tarddu o'r gair Eubonia', am darddell, a bonia yn tarddu o'r gair bonus, am dda neu rinwedd; ac felly tarddell rhinwedd yw'r ystyr, yn cyfeirio mae'n debygol at yr ynys hon fel ffynhonell dysgeidiaeth a chrefydd y byd.

Dywedir fod Môn yn ffynhonell gwybodaeth mewn duwinyddiaeth, athroniaeth, seryddiaeth, meddyginiaeth

  • a chelfyddydau eraill; ac fod amryw wyr ieuainc wedi

eu hanfon drosodd o Ffraingc yn amser Julius Cæsar i'w haddysgu yn y celfyddydau hyny. Y mae Sylvester