Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dechreuodd yr Annibynwyr eu hachos crefyddol yma oddeutu y fl. 1750. Dyoddefodd y pregethwyr a ddaethant yma rhwng y blynyddau 1750 a 1760 y triniaethau mwyaf ffiaidd a chreulawn, fel y mae yn syndod eu bod wedi gallu diangc heb eu lladd. O berthynas i ddechreuad achos y Bedyddwyr a'r Wesleyaid, y mae yn anhysbys i mi.

Y sefydliadau elusenol penaf yn y dref hon ydynt, yr Ysgol Ramadegol Rydd; hefyd, un yn cael ei chario yn mlaen ar gynllun Cenedlaethol. Adeiladwyd a gwaddolwyd y gyntaf yn haelionus gan Dafydd Hughes, Ysw., yn y fl. 1603, i goffadwriaeth yr hwn y gosodwyd cof golofn odidog yn nghangell yr Eglwys. Hefyd, addawodd Robert Davies, Ysw., Menai Bridge, 2,000p. os bydd i'r sefydliad aros yn y lle yma: ond os newidir ei le i ganolbarth y wlad, y bydd iddo roddi 5,000p! Y mae yr achos heb ei benderfynu eto.

Oddeutu haner milldir oddiwrth y dref, y mae craig yn cael ei galw yn China Rock, o'r hon y gwneir llestri china. Cynhelir y farchnad ar ddydd Sadwrn, a'r ffeiriau ar Ion. 13eg, Iau Derch, Medi 19eg, a Rhag. 19eg. Poblogaeth y fwrdeisdref yn y fl. 1871 yw 2358; rhif yr etholwyr yn 1832 oedd 329; ac yn y fl. 1866 yr oeddynt yn 558. Cyfanswm ardreth yr eiddo anghyffro yw, 37,874p., a'r swm a delir i'r faeldreth yw 1,770p. Yr aelod seneddol presenol yw yr Anrhydeddus W. Owen Stanley, mab i'r diweddar Arglwydd Stanley, o Alderley: y mae yn ystus heddwch, ac yn rhaglaw dros y sir (Lord-lieutenant). Bu yn swyddog milwrol unwaith, rhyddfrydwr yw mewn gwleidyddiaeth. Ei breswylfod yw Penrhos, Caergybi; a'i oedran yw 70.

Poblogaeth yr ynys yn f. 1871 ydyw.54,609. Rhif yr,