Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farwolaeth yma, yn y cyn-oesau, trwy eu rhoddi mewn barilau, trwy y rhai y byddai picellau hirion wedi eu gyru—blaenau llymion pa rai a rwygent gnawd y trueiniaid mewn modd dychrynllyd—ac wedi hyny treiglid hwy dros y dibyn i'r môr! Felly gellir casglu fod Cremlyn yn enw ar le oedd gan Eglwys Rhufain i ferthyru y Cristionogion trwy beirianau berwedig.

Tybia ROWLANDS (Mona Antiqua) fod y gair yn dynodi rhai pethau oedd yn perthyn i'r aberthau, heblaw yr allorau ceryg. Dywed fod y cyfryw enwau yn awr wedi myned yn hollol anarferedig, ac wedi colli a myned i dir anghof; oddieithr mewn un neu ddau o leoedd, y rhai a elwir Cremlwyn neu Cremlyn, fel y mae yn cael ei seinio yn y cyffredin. Mewn un o'r lleoedd hyn y mae ceryg cofadail a chromlech yn sefyll, y rhai a ddengys y bu yma wasanaeth hynod rywbryd.

Pugan (neu Pugna).—Yn y plwyf yma y mae olion hen gapel i'w gweled, y rhai a elwid oddiwrth y lle yn "Gapel Pugna"; ystyr y gair yw brwydr, neu ymdrech.

PLWYF PENTRAETH

Gelwid Pentraeth hefyd wrth yr enw Llanfair-Bettws-Geraint. Y mae enw Pentraeth yn arwyddo—The head, or upper end of the sandy beach, or bay; "Traeth Coch", neu the red sands; ac weithiau Red Wharf Bay: tardda yr enw Bettws Geraint oddiwrth Ceraint (neu Gerimius), wŷr Constantine, Duc Cornwall, a dilynydd y brenin Arthur. Bu Geraint yn llyngesydd yn y llynges Brydeinig, a thrwy hyny, ar rai achosion, yn achlesu yn yr ynys hon; a bu hyn yn foddion i'w dueddu i adeiladu eglwys Pentraeth, yr hon a elwid Llanfair-Bettws Geraint ar ei enw. Cysegrwyd hi i St. Mair, oddeutu y chweched ganrif.