Lleoedd yn Mon.
43
Dinas, (a City.) Dun in the Irish signifies a fool,' and
Dunam , ' to shut up ,' to inclose.” Yr oedd y dref hon yn perthyn i freninoedd Lloegr hyd amser y frenhines Elizabeth , pan y dosranwyd hi yn
ddwy ran . Gwerthwyd un ran i Hugh William, Glan y.gors ; ac yr oedd yn eiddo i Coningsby Williams yn 1710. Trefnwyd y rhan arall i William Jones, mab i John'ap William Pugh, yr hwn oedd yr amser yma yn dir-feddianydd . Trefnwyd terfynau Dinam mewn côf.
lyfr - oddiwrth Rhyd Dinam hyd y ffordd fawr i Cae'r Slatter ; oddiyno i Crochan Caffo, ac yn mlaen i Mall. traeth ; yna i Lon Goed, ac yn mlaen hyd y ffordd i Hen Shop: oddiyno drachefn trwy'r ffordd i Ben - yr -orsedd, yn mlaen hyd y ffordd i Sarn Dudur, hyd afon Bodowyr, a therfyna yn Rhyd Dinam. PLWYF LLAN IDAN .
Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir i'r de -orllewin
o Fangor. Cafwyd yr enw hwn oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i un o'r enw Aidan . Tybir gan rai mai mab i Gabranus, neu Gwrnyw, yr hwn oedd wŷr i
Urien Rheged, tywysog Regedia , yn y gogledd, ydoedd ; ond tybia eraill mai Aidan yr esgob - yr hwn oedd yn cael ei alw Aidan Foeddog of Columcil - ac esgob Llan . Y dybiaeth olaf yw'r gywiraf, oblegyd fod Ffinan, i'r hwn yr oedd eglwys wedi ei chysegru mewn disfern .
lle arall, yn ddysgybl diweddaf i Aidan, yn ei ganlyn ef yn ei esgobaeth, ac yn cymeradwyo gwaith da ei feistr Aidan.
Tybir i'r eglwys hon gael ei chysegru yn y
bumed ganrif. Yr oedd perigloriaeth a'r holl blwyf hwn wedi eu cysylltu â chrefydd -dy Bethgelert, gyda