Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/54

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

46

Hanes ac ystyr Enwau

“ Trigfa ofwyr (habitation of the Eubates ) neu, trigf & Offeiriadau Derwyddol, Bu y lle hwn unwaith yn eiddo un o'r enw Evan Wyddel, yr hwn oedd yn preswylio yma. Ymddengys

i'r dref hon, gyda Myfyrian, gael eu cysylltu â Phorth amel. Gwerthwyd y lle gan Hwlkin ap Dafydd ap Evan Wyddel, i William ap Griffith , mab Gwilym o'r Penrhyn, yn agos i Fangor . Tre'r Driw . - Y mae'r enw yma yn cael ei wneyd i fyny o'r ddau air ,-Tref, am drigfa , a Driw, am benaeth

y Derwyddon-yr Arch - dderwydd. Yr ystyr yw, trigfa yr Arch -dderwydd, neu Tre'r Driw (the Druids Town.) Rhoddwyd y dref hon, gan un o dywysogion Cymru, i St. Beuno, o Clynog Fawr, yn Arfon, fel yr ymddeng ys oddiwrth hen fraint-ysgrif a grybwyllir gan Mr. Rowlands; ac ymddengys oddiwrth yr un ysgrif, fod deiliad tir yn y lle hwn yn mwynhau amryw ragor

faeintau, a gwnaethpwyd hyn y fwy eglur gan orchymyn Gibbert de Talbot, Llys - Ynad Gogledd Cymru, yn am .

ser Harri VI ., yr hwn a ddyddiwyd yn Beaumaris, yn y 12fed flwyddyn o deyrnasiad Harri, 0.C. 8412.

Yr oedd adfeilion hen gapel yn weledig yn agos i Tre'r Driw, yr hwn a elwid “ Capel Beuno ”: ac yr oedd hen gloch yn y ty hwn yn cael eu galw “ Cloch fechan

Beuno.” Y mae yma ddau dŷ yn cael eu gadw Tre'r Driw isaf a Tre’r Vwri uchaf; a dau arall yn cael eu galw Tre'r Ivan a Thre' Vwri, a rhai a roddwyd yn. gymunrodd gan y Parch. Robert White, o Friars.

Yn 1762, cafodd y Parch . H. Rowlands, pan yn arol. ýgu symudiad rhai o'r oeryg yn y lle hwn (mewn trefr i wneud ymchwyliad i hynafiaethau y lle,) hyd i fathodyn