Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/55

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Lleoedd yn Mon.

47

(medal) arddechog o bres, a llun y Gwarodwr arno , mewn cadwriaeth dda, yr hwn a ddanfonwyd ganddo i'w

gyfaill a'i gydwladwr, y Parch . E. Llwyd, awdwr yr " Archæological Britannica ," ar y pryd hwnw , yn arol ygu llyfrgell Ashmoleum , yn Rhydychain. Y Bathod yn Pres . - Fel hyn y darlunir ef gan un-" Y mae ar an ochr i'r bathodyn hwn lun pen, yr hwn sydd yn cyfateb yn gywir i'r darluniad a roddir gan Piblius

Lentitius o'n Gwaredwr, mewn llythyr a ddanfonwyd at yr Ymerawdwr Tiberius, a chynghorwr Rhufain .” Ar yr ochr arall i'r bathodyn y mae yn ysgrifenedig mewn llythyrenau Hebraeg : - “ Dyma Iesu Grist y Gyfryng . wr-ddyn ."

Yn gymaint a bod y bathodyn yma wedi ei gael yn mysg gweddillion trigfanau y prif Dderwyddon, nid yw

yn annhebygol ei fod yn perthyn i ryw Gristion oedd gyda Bran Fendigaid, yr hwn oedd yn perthyn i fyddin Caractous yn Rhufain, oddeutu 52 0.C. , ar yr amser yr oedd yr Apostol Paul yn pregethu efengyl Crist yn

Rhufain . Yn mhen ychydig wedi hyn, dinystriodd y pen -cadben Rhufeinig Suctonius yr holl Dderwyddon oedd yn Ynys Môn. Gwelir copi o'r llythyr henafol y cyfeiriwyd ato yn “ Golud yr Oes,” tudal. 418.

Tre'r Beirdd , ac, mewn rhai hen ysgrifau, Trefynerd a Trefeyrd : y mae'r enw Tre'r Beirdd wedi tarddu oddi.

wrth fod y lle wedi bod yn drigfa prydyddion ; oddiwrth beth y tarddodd yr enw Trefynerd, y mae yn anhysbys.

Rhoddwyd y dref hon gan y tywysog Owen Gwynedd, a chadarnhawyd y peth gan y tywysog Llewelyn, i Cyn ric ap Meredydd Ddu, fel y dengys yr hen weithred a ad -ysgrifenwyd ac a ddygwyd allan gan Mr. Rowlands.