Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/60

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

52

Hanes ac ystyr. Enwau

Yn agos i'r fan hon y tiriodd y Cadfridog Rhufeinig Suetonius i'r ynys hon, yn ymyl Porth Amel, a'r lle a

alwyd Pant, neu Pont- yr -ysgraffau .

Meddyliai Mr.

Rowlands mai rhwng y lle a elwir Pwll-y -fuwch a Llan.

idan y glaniodd y Rhufeiniaid y waith gyntaf hon ; a dywed fod rhyd, lle y gallasai eu gwyr meirch groesi, odditan Llanidan ; ac nid yw yn annhebyg fody fan lle y glaniodd eu gwŷr traed yn cael ei alw hyd heddyw

wrth yr enw “ Pont-yr-ysgraffau.” Tybir i'r enw dar ddu o'r gair " Scaphæ " ( Skif) -- cwch . Hefyd, bernir mai yn agos i'r fan hon y croesid y Menai gan Suetonius, y croesid hi bymtheng mlynedd wedi hyn gan Agricola ; a haerir fod y lle a elwir “ Crug ' yn hytrach “ Crig ,” wedi ei alw ar enw y rhaglaw hwn er cof am ei weith

redoedd a'i wersylliad yn y lle hwn. Lladdodd Sueton . ius y Brythoniaid wrth y miloedd yn agos i'r fan hon . Gelwir y lle gan Rowlands, “ Maes y gad fawr," (the great army's field .) Plwyf LLANFIHANGEL YSGEIFIOG, NEU

( Llanfihangel Pentre Berw .)

Saif y plwyf yma oddeutu wyth milldir i'r gogledd -or llewin o Fangor, tardda y gair oddiwrth fod yr eglwys

wedi ei chysegru i St. Michael, a'r gair ysgeifio am goed ysgaw . Yr ystyr yw, “Llain, neu.gell mewn ysgaw ür

hwn sydd yn hoffi Duw ." Y mae y plwyf hwn yn guradiaeth syfydlog mewn

cysylltiad a churadiaeth Llanffinan: noddwry fywiolaeth ydyw Deon Bongor, i'r hwn y mae degwm y plwyf yo perthyn, &c.