Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/65

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Lleoedd yn Mon.

57

Pen Mynydd, Tre' Castell ac Arddreiniog , i'w fab Gronw; a Thudur Hen ap Groi: W a ddosranodd ei etifeddiaethau

rhwng ei dri mab, Gronw, Howel, a Madoc. Etifedd . iaeth Tudur oedd Pen Mynydd, lle y trigodd am amryw flynyddau. Bu farw yn Friars, Bangor, yr hwn le a adeiladwyd ac a waddolwyd ganddo ar y 9fed dydd o Hydref, 1311. Bu Howel ei fab farw heb hil. iogaeth. Madoc oedd Archddiacon Môn, ac yn ben ar

fynachlog Conwy. Gronw , y mab ieuengaf, a gafodd etifeddiaeth ei frawd Howel. Claddwyd y Gronw hwn yn Bangor, Rhagfyr lleg, 1331, a gadawodd ei fab Tudur yn etifedd - a'r Tudur hwn, yr hwn a fu byw yn

Tre' Castell, a adawodd bump o feibion ar ei ol, rhwng pa rai y rhanodd efe ei etifeddiaeth ; claddwyd ef yn Friars, Bangor, Mai 9fed , 1367.

Ei feibion oeddynt

Gronw , Ednyfed, Gwilym, Meredith, a Rhys. Gronw oedd etifedd Pen Mynydd ; i'r hwn yr oedd merch, yr hon a briododd William Griffith , ap Gwilym o Penrhyn , Bangor ; a mab o'r enw Tudur Fychan. Ednyfed ail fab Tudur ap Gronw, a enillodd Tre' Case tell yn dref-dadaeth . Gadawodd yntau ddwy feroh yn gyd - etifeddion, sef Anghared a Myfanwy. Anghared ,

yr hon oedd yn meddu Tre’ Castell yn etifeddiaeth , a briododd gyda Evan ap Adda, ap Iorwerth Ddu o Te . gengl, yn sir Fflint ; a'a mab Evan Fychan a briododd Anghared merch Howel ap Tudur, o Fostyn, lley pres wyliodd wedi hyny yn nghyd a'i hiliogaeth hyd o fewn deng mlynedd yn ol, os nad hyd heddyw , ac yn cymeryd meddiant o'r lle.

Mae hiliogaeth Gwilym , trydydd mab Tudur ap Gronw , wedi darfod , neu nad oes gwybodaeth am danynt.

Meredith , y pedwerydd mab, oherwydd rhyw achos