Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/66

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

58

Hanes ac ystyr Enwau

neu gilydd, a adawodd ei gartref, ac yn y cyfamser gan . wyd ei fab Owen (o weddw Harri V). Ei bumed mab,

Rhys, a ddaeth yn feddianol o Tre' Gaian a'r Arddrein iog ; yr hwn a addawodd ei eiddo i'w ferch Gwerfil, yr hon a briododd Madoc ap Evan , ap Einion o Penarth, Abercyn, yn Eifionydd, yr hwn a adawodd y lle i'w fab Howel ap

Madoc ; ac yntau a'i gadawodd i'w fab Rhys,

oddiwrth yr hwn y disgynodd i'w fab Rhydderch. Yr oedd y cyntaf o holl deulu y Rhydderchiaid a'r Pryth. erchiaid oedd yn yr ynys. Bu Rhys ap Tadur ap Gronw farw , a chladdwyd ef yn Friars, Bangor, yn y fl. 1412 . Bu dyn yn byw yn y plwyf hwn o'r enw William ap

oddeutu y il. 1580, yn gant a phump ood. Priododd dair o wragedd, a chafodd dri-a -deugain o blant o honynt : o'r gyntaf dau -ar -hugain, a rhwng yr ieuengaf a'r hynaf yr oedd 81 o flynyddau . A chyn ei farw , yr oedd yn meddu uwchlaw tri chant o hiliog. aeth ! Cysylltwyd capel Tre' Gaian a pherigloriaeth Llangefni. Noddwr y fywioliaeth ydyw Esgob Bangor. Cysegrwyd yr eglwys i St. Gaian , yn y bumed ganrif; yr ystyr yw “ Llan-y -rhwyd-fan-bysg." Howel ap Iorwerth ,

Plwyf LLANTRISANT.

Mae'r plwyf hwn yn sefyll oddeutu pedair milldir i'r gorllewin o Lanerchymedd. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i dri o seintiau,-St. Afran , St. Ieuan, a St. Savan , y rhai a'i sylfaenasant gyntaf yn y fl. 570.

Oddeutu milldir o bentref Llantrisant, yn nghwmwd Talybolion, ar lan yr afon Alaw , y mae • Ynys Bron wen ." Yn y mabinogion Cymreig ceir yr hyn & gan . lyn : - “ Cynhaliai Bran ap Llyr Llediaith ei lys yn

HE