Lleoedd yn Mon.
69
y tywyn hwn y gelwir y lle gan y beirdd yn Aberffraw wen :
" Onid Aberffraw wen hynod yw han , Lle tirion ar lan afon ,
Lle ucha' ei bri, ar ochr bron ."
Y mae enw Aberffraw yn tarddu oddiwrth “ afon ," a
- ffraw ;" ystyr y gair ffraw ydyw bywiog, cynhyrfus ;
ac felly ystyr yr enw yw " afon fywiog." Enw Rhufein .
ig Aberffraw ydoedd “ Gadavia .” — Gada, to fall or run down ; via - way ; dwfr yn rhedeg i lawr ( i'r môr, efall ai.) Ni wyddys a fu y Rhufeiniaid yn trigo yma a'i peidio ; y tebygolrwydd yw, iddynt fod rywbryd mewn cyfnod pur foreu , onide ni fuasai y lle yn cael ei alw “ Gada via ."
Yr ydys wedi rhoddi ystyron y geiriau bod a thref o'r blaen : ceir tair o ffermydd yn y plwyf hwn yn dwyn yr enw Bod - Bodfeirig (trigfa Meirig), Bodgedwydd, a Bodwrdin .
Ymddengys fod y lleoedd hyn yn brif breswylfeydd
yn mhob trefedigaeth ; a thra yr oedd y trefedigaethau
hyn yn cynyddu ac yn lluosgi yn fân adranau teuluaidd, yr oeddynt dan orfod i dir -ranu ; sef trosglwyddo iddynt eu rhanau neillduol o dir, i'w drin a'i lafurio . Dywed Mr. Rowlands fod y prif drosglwyddwyr yn cael
eu galw yn mhob un o'r trefedigaethau, yn ' dir-ranwyr ' (land sharers) ; gelwir hwy “ Tyranni” yn Lladin . Rhoddwyd fferm Bodgedwydd, neu Trefod Gedwydd, yn nghantref Aberffraw , gan Llewelyn ap Iorwerth,
tywysog Gwynedd, yn anrheg, gyda lleoedd eraill yn
Môn, at gynal mynachlog Conwy : a bu y Cwirtau hefyd ar ol hyny yn perthyn i'r un syfydliad. Gwel Mona Antiqua, tudal, 127,