Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/79

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Lleoedd уп Mon.

71

dwyn gan y Derwyddon yn cael ei gyfrif yn lle eysegred ig. Dywed Clem. Alex. in potrept— " Templa, dici fuisse autem Sepulchra , i.e. , Sepulchra ipsa vocate fuisse tem pla ” ; h.y. , fod ' bedd-le ' ei hun yn cael ei alw yn deml. Gwel “ Brython , ” cyf. 4. , tudal. 202. Gwisgai y Derwyddon eu bedd-leoedd â llwyni o dderw cauadfrig ; ymddangosent yn yr addurniadau hyn fel temlau neu fanau cysegredig - y gwydd yn fur, a'r

awyr las uwchben yn do ! Ymgynullent i'r temlau hyn i addoli, oblegyd barnent fod Duw yn un rhy fawr i

drigo mewn temlau o waith dwylaw. Yr oedd yn naturiol i'r rhai hyny, pan eu henillwyd oddiwrth dder. wyddiaeth i gofleidio y ffydd Cristionogol, iddynt adeiladu eu heglwysi yn yr un man ag y byddent yn arfer addoli gynt : oblegyd yr oedd ymlyniad a serch ganddynt at y cyfryw fanau yn fwy na rhyw leoedd eraill .

Dywed Mr. Rowlands, yn y Mona Antiqua, fel hyn :

" Our Christian churches have generally been built at, or near those ancient sanctuaries." * * * * " and proba bly, people's mind were sooner drawn to make their

Christian meetings at their antiently accustomed places of assembling. I say our Christian churches do seem on

this account to have their name Llan, from that of Llwyn , with the addition of some christian name that

had been signalized in that place, instead of their former heathenish characters and terminations."

Page 229.

Y mae yn bur debygol mai mewn lle o'r fath yma yr adeiladwyd yr eglwys uchod ; ac iddi oddiwrth hyny gael ei galw yu " Eglwys y Beili , ” neu y bedd -le. Gan bwy, a pha bryd yr adeiladwyd hi, nis gwyddom ; ond, tybir iddi gael ei hadeiladu lawer o amser o flaen eg . 7