Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/84

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

76

Hanes ac ystyr Enwau

gladdu yn Ynys Enlli ; ond, rhydd Rowlands ar ddeall. i ni i'w weddillion yn y diwedd gael eu rhoddi i'w cadw

yama gan Cadwaladr, yr hwn, efallai, a gododd yr eg. lwys hon yn fuan ar ei fedd ef : ac ar y cyfrif hyn y gwisgwyd hi â rhagorfraint neillduol. Y cyfartaledd blynyddol at gynal tlodion y plwyf ydyw, 177p. 178. Oc . PLWYF LLANFEIRION .

Saif y plwyf hwn oddeutu deng milldir i'r de - orllewin

o Langefni. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru yn y chweched ganrif i Meirion, neu Veirian , ap Owain Danwyn, 'ap Einion Trth, ap Cun . edda Wledig, brawd Siriol Wyn, ac Inion Frenin . Y mae y gair Meirion yn cynwys y meddylddrych o faer (mayor ) ; yr ystyr yw " Llan -y -Maerod .”

Yr oedd yr eglwys hon mewn cysylltiad a pheriglor iaeth Llangadwaladr ; ond nid yw yn bodoli yn awr , oblegyd syrthiodd i adfeiliad llwyr oddeutu y f. 1775. PLWYF TRE' GWALCHMAI . Y mae rhan o'r plwyf hwn yn nghwmwd Llifon, a rhan Malltraeth . Saif oddeutu pum ' milldir i'r gorllewin

yn

o Langefni. Y mae yr eglwys yn sefyll ar ben bryn , oddeutu milldir oddiwrth New Mona Inn , cysylltwyd y fywiolaeth a pherigloriaeth Hen Eglwys, yn niacon . iaeth Môn , ac yn esgobaeth Bangor, Cysegrwyd yr eglwys i St. Mordeyrn, neu Morhaiarn ; ond nid yw yr

eaw hwn yn ymddangos yn y " Cambrian Biography ." . Y mae enw y plwyf wedi ei droi ; a rhoddwyd enw Gwalchmai ap Meilir arno oddeutu y ddeuddegfed gan . nif. Tybir mai yr ystyr yw, " Trigfa un yn llawn ys. bryd i ymeangu allan .”