Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/86

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

78

Hanes ac ystyr Enwau

oline Jenkins, i Cologne, fel negesydd (ambassador ), a neillduoedd ei hun yn fawr fel ysgrifenydd dadleuol ( polemical writer ). Cyfartaledd blynyddol y plwyf at gynal y tlodion ydyw , 472p. 28. Oc. PLWYF LLAN GWYFAN. Mae'r plwyf hwn yn sefyll oddeutu deuddeg milldir

i'r gorllewin o Langefni. Adeiladwyd yr eglwys kon mewn lle anghyfleus ar graig fechan , amgylchynir hi

gan y môr ar lanw uchel. Cysegrwyd hí

yn y seithfed

ganrif i St. Gwyfan Cwyfen, ap Brwynog, ap Corth

Cadeir o Gwm Dyfynawc, ap Medrawd, ap Caradawc, Freichfras, a'i fam Camell o Fod Anghared yn Ngholo ion. Hefyd, cysegrwyd eglwys Tudweiliog, yn Arfon , Llangwyfan yn Maelor, iddo. Nis gellir myned i'r eg. lwys hon ond ar drai: dywedir fod tir o'i hamgylch pan

adeiladwyd hi. Y mae yn argraffedig ar gareg fedd tu fewn i'r

eg.

lwys, ei bod yn cael ei galw yn y fl. 1601, yn " Infelina Insula ," (Anhapus Ynys ); ac felly, o'r hyn lleiaf, y mae

B2

yn cael ei galw yn ynys ers yn agos i dri chan ' mlynedd ,

Yr ystyr yw , “ Llan y dinystrydd ," sefGwyfyn . Ceir yn

y plwyfhwn luaws o hen weddillion hynod, a

rhai o honynt oedd yn bodoli cyn Crist. Un o'r pethau 1

cyntaf y sylwir arno ydyw y Gromlech sydd ar ben Myn .

ydd y Cnwc, yr hon sydd yn gareg fawr wastad lydan , wedi ei gosod ar ben tair careg tua dwy droedfedd o uchder oddiwrth y llawr - y mae yr olwg arni yn debyg 1

i fwrdd : ac o'i hamgylch yr oedd cylch o geryg, wedi 1

bod yn mesur ar draws oddeutu 12 llath . O fewn i'r cylch hwn y byddai y Derwyddon gynt yn arfor ymgyn . ull i addoli ac aberthu . Saif yr allor hon mewn lle am .

0