Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/95

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Lleoedd yn Mon.

87

Caer Fordir, neu a gamenwir yn bresenol yn Gae'r fortir . Tebygol yw i'r nantle a'r gwastadedd sydd ger llawyma fod unwaith yn orchuddedig gan ddwfr ; ac y

mae olion y cyfryw beth i'w weled yn eglur: gelwir y tir sydd yn terfynu arno yn “ Ynys Dodyn .” Efall . ai i'r dywededig lanerch fod wedi ei hamgylchu à dwfr,

1

ac felly fod yr enw wedi tarddu oddiwrth hyny - dyna y syniad sydd ar lafar gwlad yn mysg y brodorion . Bod Ychain , neu yn fwy priodol, Bod Ychen . - Y mao yr enw wedi tarddu oddiwrth breswylfod un o'r enw Ychen ; pwy ydyw nid yw yn hysbys. Y mae y lle hwnyn un o'r rhai hynaf yn yr ynys. Yma yr oedd Rhys ap Llewelyn ap Hwlcyn yn byw ; efe oedd y sir. ydd cyntaf, a pharhaodd yn ei swydd hyd ei farwolaeth . Yr oedd yn byw yma oddentu y fl. 1500. Yr adeg neillduol yr hynododd y gwron Cymreig hwn ei hun oedd, yn mrwydr waedlyd a bythgofiadwy “Maes Bosworth " -yr oedd ei fedr fel llywydd yn ei hynodi

yn ddirfawr yn mhlith ei gyd -ymladdwyr, fel yr oedd yn cael ei edmygu i'r graddau pellaf. Derbyniodd gan y brenin uchel deitl, a'r enw a ddewisodd oedd Bod . ychon , sef enw ei breswylfod.

In y plwyf hwn yr oedd Carchar y Sir, ac y trinid pob math o achosion o bwys yn eu cysylltiad a heddwch ac

a rheolath yr ynys. Y mae rhanau o'r carchar i'w gwel. ed, fel colofnau i ddangos yr hyn a fu yn yr adeg a aeth beibio .

Bryn - y - Crogi.-- Y mae yn ymddyngos fod yr enw hwn wedi tarddu oddiwrth y mynych ddienyddiadau fyddai yn cymeryd lle yma. Y mae yn cael ei alw ar yr enw yma byd heddyw .