Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/96

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

88

Hanes ac ystyr Enwau

Gefnithgraen . — Terfyna y lle hwn ar Bryn- y -Crogi.

I'r maes hwn y byddid yn dwyn y troseddwyr i weinyddu cosb y gyfraith arnynt, trwy eu fflangellu a'u cefnau yn noethion, ac felly cafodd y lle yr enw. Yr enw priodol ydyw , " Cefn y noeth groen ."

COIN

Plwyf LLANFIHANGEL YN NHoWYN .

Plwyf bychan ar ochr dde-orllewinol Ynys Môn. Y mae y tir ardrethol yno o dan 1000 o erwau ; a chommins tua'r an mesur yn perthyn i'r lle. Saif y commins hwn ar yr ochr ddeheuol i'r plwyf, a therfyna ar y môr, a gelwir ef“ Tywyn trewain .” Y mae y gair Tywyn yn tarddu o ddau air, tywod a gwyn ; o berthyn.

as i darddiad yr enw Trewain, tybia rhai iddo darddu o'r gair waen, oherwydd gwastad-dir oedd yma cyn i'r

tywod gael ei chwythu i fyny o'r môr. Casgla eraill mai Tywyn Trewyn ydoedd. Dywed Mr. Rowlands am dano, mai Tywyn Tre Owain ydoedd ; y mae traddodiad yn yr ardal fod yma dref wedi bod unwaith , lle yn awr y mae bryniau tywod ; ac fod y dref hono yn cael ei hen

wi oddiwrth rhyw Owain . Y mae rhan o'r Tywyn hwn yn perthyn i blwyf Llechylched.

Eglwys y Plwyf.-- Yr oedd yr eglwys gyntaf yn nghanol Tywyn Tre Owain, tua 150 llath i'r de -orllewin

o'r coping sydd ar y railway yn y tywyn ; a dyma paham y galwyd y plwyf yr " Llanfihangel yn Nhywyn." Hef

yd, gelwir y lle yn " Ferddyn Eglwys. ” Dywedir fod hen bobl yn cofio y murivu yn sefyll, a rhai yn cofio eu hon deidiau yn dywedyd iddynt fod mewn gwasanaeth yma tua 170 mlynedd yn ol. Ond symudwyd yr hen

ferddyn ymaith i wneud brag -dy mewn ffermdy cym . ydogaethol, a dyna ddiwedd ben eglwys Llanfihangel

1