Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn well nag y disgwyliais; un yn prynnu a'r llall yn gwerthu, mi a'u cefais yn ol, trwy dalu ynghylch 50p.

Ar ol hynny, mi a ddaethum yn fwy adnabyddus ac yn fwy fy mharch ymhlith estroniaid nag o'r blaen, trwy iddynt ddeall mai cam oeddwn yn ei gael.

Y gate oedd y flwyddyn gyntaf yn lled gwla o ran profit; yr oedd fy merch hynaf yn rhoi y cwbl i lawr a dderbynid ynddi; ond yr ail flwyddyn hi a dalodd yn bur dda; a'r drydedd fe godwyd arni 15p, ond nid drwg oedd hi yno.

Ni a fyddem yn gweled llawer yn y nos yn myned trwodd heb dalu; sef y peth a fyddent hwy yn ei alw cyheureth neu ledrith; weithiau herses a mourning coaches, ac weithiau angladdau ar draed, i'w gweled mor amlwg ag y gellir gweled dim, yn enwedig liw nos.

Mi welais fy hun, ryw noswaith, hers yn myned trwy'r gate, a hithau yng nghauad; gweled y ceffylau a'r harness, a'r hogyn postilion a'r coachman, a'r siobau rhawn fydd ar dopiau hers, a'r olwynion yn pasio'r cerrig yn y ffordd fel y byddai olwynion eraill a'r claddedigaethau yr un modd, mor debyg, yn elor ac yn frethyn du, neu os rhyw un ieuanc a gleddid, byddai fel cynfas wen; ac weithiau yn gweled canwyll gref yn myned heibio.

Unwaith pan alwodd rhyw drafaeliwr yn y gate,"Edrwch acw," eb ef, "dacw ganwyll gorph yndyfod hyd y caeau o'r ffordd fawr gerllaw; felly ni a ddaliasom sylw arni yn dyfod, megys o'r tu arall i'r lan; weithiau yn agos i'r ffordd, waith arall enyd yn y caeau; ac yn mhen ychydig bu raid i gorph ddyfod yr un