Tudalen:Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r-Nant.pdf/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddychrynfeydd uffern ger ei fron; ynniffyg na byddai i mi gael fy nhir, y byddai fy melldith yn ei gnoi dros dragwyddoldeb yntau, oedd mewn cyflwr truenus yn yr ystafell lle yr oedd ei wely, yn gwaeddi, ac yn drewi gan ryw ffieidd-dra a oedd yn dyfod allan o'i gorph; yr: oedd yn gorfod i'r dyn ag oedd yn tendio arno daflu finegr hyd y llofft, cyn y gallai fyned yn. agos atto Nid oedd un forwyn na doctor yn. myned ar ei gyfyl yn y diwedd; ac felly yr oedd ef yn ysgrechian yn ofnadwy, ac yn gwaeddi ar y mab i'w glyw, ac yn dywedyd, Ow! y tir i Dwm o'r Nant; ac felly fu.

Mae y tir genyf, drwy drugaredd, ac a brynais y leni werth 118p ato o'r mynydd. Ond, fal y dywed Solomon, "Gwae a adeiliado ei. dy ag arian rhai eraill:" felly fe orfu i minnau fenthycoa; ac eto y mae arnaf ofid yn fy nghynnal fy hun i walio a chloddio, o'i amgylch; ond yn enw Duw mi wnaf hyny, os caf fi fywyd ac iechyd.

Mi a ddaethum drwy'r byd yn rhyfedd hyd yn hyn: mi a fu'm rhwng Sir Drefaldwyn: a Deheubarth saith mlynedd: myned o'm gwlad mewn ofn a phrudd-der, a dyfod yn fy ol dan chwareu, gwedi ymadael ag ofn a'r achos o hono, o ran y byd, ond bod achos pwysig i ofni a chrynu o herwydd pechod; ac achos mwy i ddiolch ei bod hi cystal arnaf, ac fal y gallasai hi fod yn waeth.

Mi a gefais fy iechyd yn lled ryfedd, trwy bob troion hyd yma; ond yn unig pan aeth y waggon ar fy nhraws wrth bont Rhuddlan, lle cefais brofedigaeth fawr, a gwaredigaeth fwy. Pan godais, ar ol i'r olwyn fyned! troswyf; mi a esteddiais ar ganllaw y bont, ac yna y