Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/12

Gwirwyd y dudalen hon

ac yn ei threulio allan , yn gyffredin , mewn meddwdod. Y mae yn drueni gweled cynifer o ddynion mewn gwlad efengyl, yn treulio eu hoes o gwmpas y prif westai (inns, ac ar benau cerbydau, a phethau byd arall mor ddyeithr iddynt a phe byddent yn Hotentots. Yr ydym ni yn son am y dosbarth yma, yn gyffredin, ond gwyddom fod eithradau anrhydeddus yn bod. Y mae y rhai a elont i'r fath swydd yn derbyn llawer o'u talion drwy ddiod feddwol; ac y mae gyriedyddion y cerbydau yn cael eu bwrw ar drugaredd y teithwyr am eu cyflogau, yr hyn sydd hollol amheg. Y maent drwy hyny yn cael eu hanog i fyned yn anonest; ac os yn anonest, yn gelwyddwyr hefyd er mwyn cadw eu penau ar ol gwneud cam a'u meistri. Dyma lle cafodd Tomos Williams didechreu ei yrfa yn nghanol tyngwyr, rhegwyr, a meddwon halogedig; ac ni chafodd fantais i wybod yn more ei oes lle r oedd drygau yn dechreu, na rhinwedd a moesoldeb уп diweddu. Daeth yn fuan iawn i ddangos fod yn ei natur yntau gymaint o halogedigaeth ag oedd yn natur neb o honynt.

O fod yn yriedydd ceffylau aeth yn filwr; sef, y nesaf i geffyl o ran dim llywodraeth a fedd dyn drosto ei hun. Yr oedd efe, yn bresenol, mewn sefyllfa nodedig fanteisiol i holl aflendid a halogrwydd ei natur enynu allan; a gallem sicrhau y darllenydd na fu efe yn ol i'r milwr penaf am bob castiau drwg ac am feddwdod. Y mae y milwr mewn cyfleusdra nad all na ostler na gyrwr ceffylau gael ei chyffelyb. Gall ef, ar amgylchiadau neillduol, fwrw allan holl halogedigaeth ac aflendid cnawd ac ysbryd . Gall ladd, treisio, meddwi, rhwygo beichiogion, yspeilio, a llosgi tai a phobl heb fod