Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/18

Gwirwyd y dudalen hon

gwelem hen wr yn llechu yn un o'r ystafelloedd, a mynai Gwyddel oedd yn fy ymyl ei drywanu a'i bicell . "Ymatal ddyn," meddwn inau wrtho, "a wyt ti am ladd hen greadur diniwaid fel hyn—nid oes genym ni hawl i ladd neb ond wrth amddiffyn ein hunain." "Taw yr hen Gymro hyll, onide rhoddaf hi trwot ti," meddai yntau . "Na wnei di mo hyny, chwaith," ebe finau. A phan welodd yr hen Spaniard fy mod yn ei achub, aeth o dan ei wely ac es tynodd allan gostrelaid o win,—gwnaeth arwydd i erfyn arnaf ei yfed; dangosais inau fod arnaf ofn fod gwenwyn ynddo;—yntau a yfodd o hono ei hun, i ddangos nad oedd dim niwaid ynddo: yna cym erais ef o'i law. Wrth weled byn, deisyfodd y Gwyddel gael llymaid hefyd, pryd y nacaodd yr hen wr, gan ysgwyd ei ben yn ffyrnig. Aethom yn mlaen nes cyrhaedd pen ein taith. A phan oeddym yn dyweyd ein neges wrth y prif swyddogion, a phawb o honom yn cydsefyll (stand at ease,) a gwn pob un rhwng ei fraich a'i ystlys a'i ffroen i fynu, aeth yr ergyd allan o'm gwn i, yn ddirybudd, nes oedd gwres y powdr yn poethi fy nghlust ac yn deifio fy ngwallt. Dychrynodd pawb, a chwiliwyd allan pwy a ollyngodd yr ergyd. Cafwyd fy ngwn i yn wag, a dygwyd fi ger bron penaeth y gâd, yr hwn a ofynodd i mi, "Beth oedd eich dyben yn gollwug yr ergyd yna?" "Yr wyf yn begio eich pardwn, Syr," meddwn inau,"nid oes genyf fi ddim help,—y mae rhyw ddyryswch ar glo fy ngwn er's misoedd." Edryehodd ef, a gwelodd ei fod felly. "Mae yn dda i chwi ei fod fel yna," meddai wrthyf, "onide cawsech eich fflangellu yn llymdost y funud hon yn ngwydd pawb ."

Daethom yo ol hyd yr un ffordd i Buenos Ayres,