Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/24

Gwirwyd y dudalen hon

arfog gydag ef, a hwy a’m cymerasant i garchardy, neu adeilad mawr lle'r oedd Blacks. yn gwylio. Arweiniasant fi yn nilaen i ddaeargell ëang, a rhoisant fi mewn cyffion ar wastad fy nghefn ar lawr cerig, a fy nhraed i fynu,—bum yn y cyflwr hwn drwy y nos heb ddim bwyd. A thranoeth dygwyd fi o flaen yr ynadon, a daeth cadben y llong y perthynwn iddi yno i'n rhyddâu trwy dalu £2 o ddirwy tros wyf; yna aethum gydag ef yn ol i'r llong. Pan oeddwn ar ymadaelo Bombay daeth rhai o foneddigion y wlad hono gyda ni, ac yn eu plith foneddiges weddw o Loegr, yn nghyd a'i thri phlentyn a'i morwyn . Yr oedd ar hon eisiau un o ddwylo y llong i'w gwasanaethu ar hyd y fordaith, a dy wedodd y Captain y cai hi fi. A gweini iddi hi oedd fy ngwaith o Bombay i Cape of good Hope. Yr oedd hi yn hoff iawn o honwyf,—byddai yn rhoddi llawer o ddiodydd i mi, a meddwodd fi un noswaith: a phan oeddwn yn myned allan trwy gaban y Captain i wneud neges iddı, gofynodd y Captain. "Pwy sydd yna ?" "Gofynwch i fy ***** ebe finau, a rhedais yn mlaen cyn iddo ddweud dim arall. Aethum ato yn fore dranoeth i ofyn ei bardwn am fy ymddygiad cywilyddus y noswaith o'r blaen, a maddeuodd i mi: gan feio fy meistres am roddi cymaint o wirod i mi. Ar ol cyraedd y Cape, aeth y boneddigion i'r lan, a lletyasant i gyd yn yr un tŷ, a chymerodd y foneddiges fi gyda hi. Yr oedd hi yn fy hoffi mor fawr fel y byddwn yn cael ei dilyn i blith y boneddigion mwyaf. Wrth weled fy ngwisg braidd yn wael, rhoddodd £3 i mi i brynu dillad newydd; ond yn lle gwneud yn ol gorchymyn y foneddiges rhoddais hwy am ddiodydd, a tharewais ar hen filwr adnabyddus i mi, a gweriais