Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/36

Gwirwyd y dudalen hon

thrwy Gonwy i Mochdre, lle yr ymadawsom â'n gilydd; oblegid yr oedd yn ormod trafferth genym ail hel arian tuag at fedru priodi a chadw tŷ. Aeth hi yn ei hol at Wrexham, a deuais inau i Lanrwst.

Yr oeddwn wedi cael trousers cryf a hardd, dim gwaeth na newydd, gan wr boneddig yn Mangor; a phan oeddwn ar fy nherm yn Llanrwst, a fy arian wedi darfod, ac yn methu dyfeisio pa fodd i gael chwaneg o gwrw, gwerthais ef am bymtheg ceiniog a hen drousers gwael a charpiog. Wrth weled yr hen drousers hwn mor fudr a thyllog, tynais ef oddi am danaf, a theflais ef ymaith, ac aethum at Bettws y coed yn haner noeth, heb ddim ond coat a chrys am danaf; gan feddwl y buaswn felly yn fwy o wrth ddrych tosturi. Aethum yn gyntaf at y Royal Oak ; ond ni chefais yno ond gwydraid o gwrw. Aethum oddiyno at Hendrerhysgethin, ac ni chefais ddim yno, oherwydd nid oedd Mr. Price yn dygwydd bod gartref. A phan oeddwn ar gychwyn oddiwrth y tŷ tywalltodd rhai o'r morwynion biseraid o ddwfr o'r lloft i lawr am fy mhen. Aethum oddiyno i Gapel Curig, a threais i'r Inn: ond ni lwyddais i gael dim yno heblaw ychydig o bres a diod. Aethum ychydig yn mlaen i dŷ ffarm a elwir Dyffryn Mymbyr a dywedais wrth wry tŷ, "Harri Roberts bach , byddwch gystal a rhoi hen "drowser" neu ryw beth i greadur llwm ac anffodus — y mae rhywun wedi fy yspeilio o fy nhrousers a'r arian oedd yn ei bocedau pan oeddwn yn cysgu allan yn ymyl Llanrwst." "Wel yn wir, Twm bach," meddai yntau, "wn i ddim,—fe allai fod gan y mab yma un a wna y tro i ti; tyred i fewn." Ac estynodd y mab glôs pen glin da i mi; a chefais fwyd a lle i gysgu y noswaith yno.