Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/55

Gwirwyd y dudalen hon

mae llawer o wirionedd yn hyn. Ac onid ydyw cyfraith y tir yn ystyried pob un yn ddiniwaid hyd nes y profir ef yn euog? Gan hyny nid teg i neb edrych gyda llygad o amheuaeth ar Tomos Williams. Y mae efe wedi glynu wrth ei benderfyniad dirwestol a chrefyddol er pan y rhoes ei enw ar lyfr y Gymdeithas lwyrymataliol a'r Gymdeithas grefyddol; ac yr ydym yn gobeithio, o'n calonau, yr erys ei enw ar y llyfrau hyny hyd nes y byddo yn cael ei ysgrifenu ar gauad ei arch, fel y byddo yn gofgolofn barhäol o'r hyn a all trugaredd a gras wneud ar enaid pechadur mawr.

OL—YSGRIF.

Ysgrifenwyd yr hanes blaenorol o enau Tomos Williams gan wr ieuanc, y pryd hwnw, o Lanrwst; ac edrychwyd dros y copi, gan ei ddiwygio, ac ychwanegu yr arweiniad i fewn a'r diweddglo, gan gyfaill.

LLANRWST; ARGRAFFWYD GAN JOHN JONES.