Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sef yr holl ddyled wedi ei llwyr ddileu. Mae diolchgarwch gwresog yn ddyledus i'r brodyr hyny a gymmerasant arnynt y fath gyfrifoldeb, ac a ysgogasant gyntaf odditan y fath faich. Mae nifer liosog o honynt, yn frodyr a chwiorydd, ar ol ffyddlondeb mawr, wedi gadael maes eu llafur, a myned i dderbyn eu gwobr. Mae dau neu dri o'r hen frodyr hynaf a gymmerasant ddyddordeb mawr yn nhalu'r ddyled, ac a wnaethant ran helaeth eu hunain tuag at hyny, eto yn aros. Ond y mae prydnawn y dydd wedi dyfod arnynt, ïe gallwn ddyweyd fod cysgodau yr hwyr yn dechreu ymestyn, ac yn fuan bellach bydd cloch yr awr noswilio yn canu, pryd y cânt hwythau hefyd fyned at eu brodyr. Yr ydym yn ddyledus i'r Parch. T. Francis a Mr. W. Pearce am hanes dyled y capel, a'r modd yr ysgogwyd at ei thalu. Mae Mr. Francis a Mr. Pearce yn gwahaniaethu tipyn yn swm y ddyled, hyny ydyw ychydig bunnoedd. Mae Mr. Francis yn ei gwneyd ychydig yn llai na Mr. Pearce: ond mewn swm ag oedd mor fawr, nid ydyw bron yn werth sylw.

Mae diolchgarwch yn ddyledus i'r lluaws ieuengctyd hefyd fu yn cyd-ddwyn y baich â'r hynaf rai. Maent hwy eto wrth y gwaith, ac wedi rhoddi eu hysgwyddau odditan faich ag sydd yn llawer trymach na'r un cyntaf, sef dyled ein haddollý newydd. Gobeithio y cânt eu bendithio â chyfoeth, calon, ffyddlondeb a hir oes, nes gwneuthur â dyled y capel newydd yn gymmwys yr un modd ag y gwnaethant â'r hen; sef dileu yn llwyr oddiar lyfrau yr holl ofynwyr bob punt, a swllt, ïe yr hatling ddiweddaf. Gyda bod yr ymdrech glodwiw y cyfeiriwyd ati drosodd, yr oedd yr eglwys, yr ysgol sabbothol, a'r gynnulleidfa, wedi ychwanegu yn fawr. Mae yn hyfryd genym hefyd allu cofnodi na welwyd un tymmor mwy llewyrchus yn ein plith na'r tymmor ag yr oedd pawb o'r bron yn ddieithriad, law a chalon, yn cyfranu o'u harian at dalu dyled y capel. Yr oedd ar hyn o bryd drugareddau tymhorol, a bendithion ysbrydol, yn cael eu tywallt i waered, fel rhyw wlaw brâs.

Ar ol talu dyled yr hen gapel, gwelwyd yn fuan ei fod, nid yn unig yn myned yn anghysurus o herwydd llawer o bethau, ond hefyd ei fod yn rhy fychan: yr oedd nifer yr aelodau erbyn hyn wedi