Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/82

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi bod yn darllen, mi dybiem, hanes y cyfammod a wnaeth Duw âg Abraham, yr hwn, ni dybiwn wrtho, oedd y datguddiad helaethaf ac egluraf a gafwyd hyd yn hyn o'r cyfammod gras. Dywedai y byddai duwiolion yr Hen Destament, yn enwedig ar amserau, yn ymaflyd o ddifrif yn nghyfammod Duw a'i seliau, neu ei arwyddion; ïe, ac yn dadleu ei addewidion yn y modd taeraf a mwyaf penderfynol. Sylwodd ar yr arwyddion a roddodd Duw—fod ynddynt sail dadl, yn enwedig pan eir i brofedigaeth a chyfyngder. Cyfeiriodd at y bwa yn y cwmmwl, ac hefyd at yr enwaediad. Gwnaeth sylw addysgiadol oddiwrth hanes Tamar; y sêl, y breichledau, a'r ffon a roddwyd iddi yn wystl ac yn arwyddion. Pan y daeth i gyfyngder, a'i bywyd i fod yn y perygl, y peth a wnaeth oedd dwyn allan yr arwyddion oedd wedi eu gwystlo i'w meddiant, sef y sêl, y breichledau, a'r ffon; ac wrth eu dangos hi ddywedai, 'O'r gŵr y piau y rhai hyn yr ydwyf fi y fel-a'r-fel.' Gorchfygodd y gwystlon a'r arwyddion hyn i achub ei bywyd. Y mae rhyw nerth cryfach na hyn yn nghyfammod Duw, ac y mae ei seliau yn bethau i ymaflyd ynddynt. Cyfeiriodd at hanes Dafydd yn nghanol ei drallod a'i anghysur pan y dywedodd, 'Er nad yw fy nhy i felly gyda Duw, eto cyfammod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr.' Wrth ddangos y cyfrifoldeb y mae rhieni ynddo wrth fagu plant, annogai hwy o ddifrif i gymmeryd gafael yn nghyfammod Duw a'i addewidion—'Myfi a fyddaf yn Dduw i ti ac i'th had ar dy ol di.'

Wel, dyma fras hanes anmherffaith am wasanaeth cyhoeddus diweddaf yr anwylaf Henry Rees. Synwyd ni yn fawr ar weinyddiad Swper yr Arglwydd wrth ysgafnder traed, a deheurwydd Mr. Rees, yn ei oedran ef, yn myned trwy y gwasanaeth hwn. O mor anhawdd ydyw sylweddoli y ffaith fod y brawd a safai yn ein pulpyd, ac wrth fwrdd y cymmundeb, ychydig ddyddiau yn ol, yn awr yn y dystaw fedd! Y mae rhediad a churiad y gwaed wedi sefyll y ddau lygad a ddysgleirient ac a felltenent wedi eu cau a'u selio—y tafod a lefarai mor hyawdlaidd a nerthol sydd yn awr yn nghell oerddystaw y bedd —y gweinidog a'r 'dyn Duw' hwn a welwyd fel wedi ei wefreiddio