Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/100

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cael yr un ysgrifenydd yn camddyweyd am bethau llawer diweddarach yn hanes Mr. Jones, nag amser ei ddyfodiad i fyw i ardal Pontypool, ond hefyd am fod genym grybwyllion am fodolaeth achos Annibynol yn yr ardal flynyddau cyn ei fynediad ef yno. Yn Ionawr 1718, anfonwyd cyfrif o nifer eglwysi Ymneillduol Mynwy, i Dr. John Evans, Llundain, ac yn eu plith enwir eglwys Annibynol yn y Trosnant, Pontypool, ac un Mr. Jeremiah Edmunds yn weinidog iddi. Yr oedd y gynnulleidfa yn 90 o rif, ac yn cynnwys chwech o dirfeddianwyr, deg o fasnachwyr, a deunaw o weithwyr. Mae yn eithaf anhebygol fod cynnulleifa o'r grym hwnw wedi diflanu mewn dwy flynedd ar hugain, sef erbyn 1740, pryd y daeth Mr. Edmund Jones i fyw i'r gymydogaeth. Hefyd mae y difyniad canlynol of hen lyfr eglwys Capel Isaac, sir Gaerfyrddin, yn deilwng o sylw yn ei berthynas ar achos hwn: "Mehefin 24ain, 1742. Casglwyd heddyw yn y Mynyddbach, y swm o dri swllt ar ddeg a saith ceiniog, tuag at gynnorthwyo adeiladiad ty cyfarfod yn agos i Bontypool, sir Fynwy, ar gais y Parchedig Edmund Jones, y gweinidog presenol yno." Y casgliad mwyaf naturiol a ellir dynu oddiwrth yr ymadrodd "y gweinidog presenol yno" ydyw fod gweinidog neu weinidogion wedi bod yno o'i flaen ef.

Dywed Mr. Joshua Thomas, yn Hanes y Bedyddwyr, fod gweinidogion yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr wedi bod yn pregethu yn fynych yn Mhontypool, a'r cylchoedd, am ugeiniau o flynyddau cyn 1729, pryd y corpholwyd yr eglwys gyntaf o Fedyddwyr yno. Gallasai fod pregethwyr perthynol i'r ddau enwad, yn ymweled yn achlysurol a'r lle, trwy holl dymor yr erlidigaeth; ond nid oes genym un cofnodiad fod yno addoliad cyson yn cael ei gynal yn 1669, pryd yr anfonwyd ystadegau yr Ymneillduwyr i Archesgob Canterbury; nac yn 1672, pryd y cymerodd y rhan fwyaf o'r Ymneillduwyr drwyddedau i bregethu. Mae yn debygol mai ryw bryd rhwng 1688, a diwedd yr ail ganrif ar bymtheg y corpholwyd yr eglwys Annibynol yn Nhrosnant, ac mai Mr. Thomas Quarrell, Mr. Hugh Pugh, ac o bosibl, Mr. John Harries, Penmain, fu yn llafurio yn benaf i'w chasglu a'i chorpholi. Nis gwyddom pa bryd yr ymsefydlodd Mr. Jeremiah Edmunds yno, na pha bryd y bu farw, neu yr ymadawodd oddi yno. Y cwbl a wyddom am dano ef, yw ei fod yn weinidog yno yn 1718. Yn mhen chwe' blynedd ar ol hyn y dechreuodd Mr. Edmund Jones bregethu yn Mhenmaiu, a daeth yn fuan i fod yn bregethwr diwyd a chyhoeddus iawn. Byddai yn ymweled yn fynych yn mlynyddoedd cyntaf ei fywyd cyhoeddus, a Blaengwrach, yn Nghwmnedd, Cwmllynfell, ac hyd yn oed Gwynfe, yn sir Gaerfyrddin. Gallwn gan hyny farnu yn naturiol, nad oedd yr achos yn Mhontypool yn ei ymyl yn cael ei esgeuluso ganddo. Mewn anedd-dai, wedi eu trwyddedu at bregethu, yr ymgynnullai yr eglwys hyd nes i Ebenezer gael ei adeiladu.

Dechreuodd Mr. Edmund Jones bregethu yn 1724, ac urddwyd ef yn weinidog cynnorthwyol yn Mhenmain, yn 1734. Mae yn debygol ei fod ef yn llafurio yn benaf yn mysg y gangen hono o eglwys Penmain, a gyfar- fyddai mewn anedd-dai yn Aberystruth, ei blwyf enedigol. Pan urddwyd Mr. Phillip Dafydd yn gynnorthwywr yn Mhenmain, mae yn ymddangos i Mr. Jones a'i gyfeillion edrych ar hyny fel gwrthodiad o'i wasanaeth ef, ac felly symudodd i fyw i'r Transh, gerllaw Pontypool, yn Gorphenaf 1740, a chyfyngodd ei lafur gweinidogaethol i'r ardal hono, ond darfu i amryw o'i gyfeillion yn mhlwyf Aberystruth, ymuno a'i eglwys ef yn Mhontypool, a chan fod eu ffordd i ddyfod yno yn dra phell, byddai ef yn myned yn