Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yn awr yn Nghaerfyrddin. Urddwyd Mr. Jones yn y flwyddyn 1795, a chan ei fod yn un a feddai gymhwysderau gweinidog enwog yn y radd uwchaf, tynodd sylw yr holl ardal yn ddioed, fel y lluosogodd y gynnulleidfa a'r eglwys yn fawr mewn ychydig o amser. Cafodd y tŷ cyfarfod ei adgyweirio a'i helaethu yn gynar yn nhymor gweinidogaeth Mr. Ebenezer Jones, a chafodd Ysgol Sabbothol ei sefydlu yno yn y flwyddyn 1816.[1] Yr oedd yr achos yn flodeuog iawn yr amser hwnw, a'r eglwys yn lluosog. Yn y flwyddyn 1820, darfu i'r aelodau a breswylient yn nghymydogaeth Blaenafon gael eu ffurfio yn eglwys Annibynol, ac yn fuan wedi hyny dewisasant weinidog iddynt eu hunain, gan nas gallasai Mr. Jones eu gwasanaethu, yn gymaint a bod ganddo i ofalu am y fam-eglwys yn Ebenezer, a'r eglwys Saisonig yn Brynbiga. Yn 1827, aeth cangen arall allan o Ebenezer i ddechreu achos ar y Farteg. Yr oedd ymadawiad y canghenau hyn yn effeithio i raddau ar luosogrwydd y fam-eglwys, ond etto parhaodd yr eglwys yn gref a dylanwadol. Bu Mr. Jones farw Ionawr 31ain, 1829.

Yr haf, ar ol marwolaeth Mr. Jones, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Rowlands. Cynaliwyd cyfarfod ei sefydliad Gorphenaf 15fed a'r 16eg, 1829, pryd y cymerodd Mr. D. Lewis, Aber; Mr. D. Davies, Penywaun; Mr. D. Davies, New Inn; Mr. D. Stephenson, Nantyglo, ac eraill, ran yn y gwasanaeth. Bu gweinidogaeth Mr. Rowlands yn dderbyniol, llwyddianus, a phoblogaidd iawn yn Ebenezer am lawer o flynyddoedd. Mae yn debygol mai yn y deng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth ef y bu yr eglwys luosocaf ei haelodau o un cyfnod yn ei hanes. Bu y cymunwyr rhwng dau athri chanto rif am rai blynyddau. Ond effeithiodd corpholiad eglwysi Annibynol yn Abersychan a Throsant, yn y flwyddyn 1837, a Cefnycrib yn 1841, i beri cryn lawer o leihad yn nifer aelodau a gwrandawyr Ebenezer. Erbyn 1842, yr oedd rhif yr aelodau wedi dyfod i lawr i 160, ac yn 1861 eu rhif oedd 132. Heblaw corpholiad eglwysi eraill yn yr ardal y mae sefyllfa ddilewyrch y gweithiau glo a haiarn yn y gymydogaeth er's blynyddau bellach, wedi lleihau rhif pob cynnulleidfa yn yr holl fro. Gellid ychwanegu hefyd, fod pob cynnulleidfa Gymreig, o bob enwad, o Flaenafon i'r Casnewydd, wedi gweled eu dyddiau goreu, gan fod y plant a'r ieuengetyd yn dewis yr iaith Saesonig, ac os na chynygir yr efengyl iddynt yn yr iaith hono, bydd miloedd o honynt fyw a marw hebddi.

Gwnaed amryw welliadau yma yn nhymor gweinidogaeth Mr. Rowlands. Adeiladwyd tŷ cyfleus i'r gweinidog, yr hwn sydd yn feddiant i'r eglwys; prynwyd darn helaeth o dir at helaethu y fynwent, ac yn y flwyddyn 1844. gwnaed y capel oll o newydd. Y mae yn bresenol yn gapel hardd a chyfleus, yn cynnwys oddeutu 500 o eisteddleoedd, a thalwyd am y cwbl heb fyned nemawr allan o'r ardal i ofyn cymorth. Bu Mr. Rowlands farw yn Ebrill, 1861, wedi bod yn gweinidogaethu yn Ebenezer ychydig dros 31 o flynyddau. Ar ol ei farwolaeth ef bu yr eglwys yn ymddibynu ar wasanaeth gweinidogion a phregethwyr cymydogaethol hyd Hydref, 1864, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Richard Richards, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o America. Un genedigol o ardal Treforis yw Mr. Richards, ond ymfudodd i America yn 1848, yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu. Bu am tua blwyddyn yn athrofa Wyne dan addysg. Urddwyd ef yn mis Awst, 1852, yn St. Clair, Pensylfania. Bu wedi hyny yn

  1. Beirniad, Cyf. vi. tudalen 114.