ac yn aelodau yn Mhenmain. Derbyniwyd yntau yn aelod yno ya ieuangc iawn, a phan oedd yn ddwy-ar-hugain oed, dechreuodd bregethu. Nid ymddengys iddo gael unrhyw fanteision addysgol, ond yr hyn a gafodd mewn ysgol a gedwid gan gurad y plwyf lle y magwyd ef, ond gwnaeth ddefnydd da o'r ychydig fanteision a gafodd. Yr oedd yn deall y Gymraeg a'r Saesoneg yn dda, ac yn medru ysgrifenu a phregethu yn y naill iaith yn gystal a'r llall. Wedi iddo fod yn pregethu am ddeng mlynedd, cafodd ei urddo yn weinidog cynnorthwyol yn Mhenmain, yn 1734. Yn 1740, ymgymerodd a gofal yr eglwys yn ardal Pontypool, ac adeiladodd y ty cyfarfod cyntaf fu gan yr eglwys hono. Parhaodd i fugeilio yr eglwys yn Ebenezer hyd derfyn ei oes, ond ymwelai yn fynych a'r eglwysi trwy bob parth o'r Dywysogaeth. Gallesid dyweyd am dano ef, fel am Paul, fod gofal dros yr holl eglwysi arno. Priododd yn ieuangc, ond ni bu iddo blant. Cafodd gydymaith o'r un anian ag ef ei hun; ei holl hyfrydwch oedd gwasanaethu Duw a dedwyddu dynion. Er eu bod ill dau yn isel eu hamgylchiadau trwy eu hoes, ni fu gwr a gwraig erioed yn fwy dedwydd. Ysgrifenai Whitefield am danynt, ar ol iddo fod yn lletya noswaith yn eu ty: "Y mae yn byw yn isel iawn, ond y mae yn mwynhau llawer o Dduw. Y mae efe yn Zecharias a'i wraig yn Elizabeth." Dywedir mai golwg ar ddedwyddwch teuluaidd Edmund Jones a'i wraig, ddarfu ogwyddo meddwl Whitefield i edrych am wraig ei hun, ac nad aeth yn mhellach nag Abergavenny, cyn gwneyd ei feddwl i fyny i gymeryd un Mrs. James o'r dref hono yn briod; ond cafodd allan er ei ofid, pan yn rhy ddiweddar, mai nid Mrs. Jones oedd Mrs. James. Er mawr golled a gofid i Edmund Jones, bu farw ei wraig werthfawr Awst 1af, 1770, a chafodd yntau deithio y gweddill o'i daith heb ei chymdeithas. Bu ef fyw i'r oedran teg o 92, o fewn ychydig fisoedd. Dyoddefodd boenau dirdynol yn ei gorff am yr wythnos ddiweddaf o'i fywyd, ond yr oedd ei feddwl, nid yn unig yn dawel, ond yn orlawn o fwynhad. Pan ofynodd Mr. Jayne, un o'i ddiaconiaid, iddo ychydig oriau cyn ei farw, "A oes ofn marw arnoch chwi, Mr. Jones bach?" agorodd ei lygaid, ac er ei fod er's oriau cyn hyny heb allu llefaru dim, dywedodd gyda phwyslais nodedig, "Ofn marw arnaf fi! nac oes, yr wyf yn adnabod Iesu Grist yn rhy dda i fod ag ofn marw. Mae marw ynddo ei hun yn chwerw i'r cnawd, ond nid wyf fi yn ei ofni." Pan ofynodd un arall iddo pa fodd y teimlai, atebodd, "Mae y wlad nefol i'w gweled yn eglur; nid oes un cwmwl na braw rhyngof fi a'r gogoniant nefol." Yn y modd hwn y gorphenodd y patriarch anrhydeddus yma ei yrfa ddaearol, Tachwedd 26ain, 1793. Claddwyd ef wrth gapel Ebenezer, a phregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr. John Griffiths, Abergavenny, i dorf wylofus, oddiwrth 2 Tim. iv. 7, 8—testyn a ddewisid gan y marw. Yr oedd Edmund Jones yn un o'r cymmeriadau hynottaf yn ei oes. Gwnaeth iddo ei hun enw anfarwol. Nid trwy rym ei alluoedd meddyliol, ei hyawdledd fel pregethwr, na'i ddysg; ond trwy ei lafur dibaid, ei ymlyniad gafaelgar with athrawiaethau neillduol yr efengyl, a'i dduwioldeb seraphaidd. Nid oedd heb ei wendidau, a'r rhai hyny yn amlwg iawn yn ei hanes. Ymddengys ei fod lawer yn rhy anffaeledig, byrbwyll, ac unbenaethol yn ei ymwneyd ag achosion ei eglwys, ac oni buasai ei fod yn ddyn anghyffredin o ragorol mewn pethau eraill, ni oddefasid hyn ynddo. Yr oedd hefyd yn nodedig am ei hygoeledd, fel y dengys ei lyfr ar ymddangosiadau ysbrydion, a llawer rhan o hanes plwyf Aberystruth. Credai y chwedlau mwyaf anhygoel am ddrychiolaethau,
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/104
Prawfddarllenwyd y dudalen hon