canwyllau cyrff, bwciod, a'r Tylwyth Teg, mor ddiysgog ag y credai yr efengyl; ie, yr oedd mor wan a chredu fod cythreuliaid yn ymrithio yn ffurfiau cwn a chathod, fel nas gallasai oddef un ci na chath yn agos ato. Credai fod pob hen wraig annuwiol, os digwyddai fod ei hwynebpryd yn lled hagr, ac ychydig farf yn tyfu ar ei gen, yn ddewines, (witch), a chadwai yn mhell oddiwrth bob un o'r fath. Clywsom Mr. Thomas, Penmain, yn adrodd yr hanesyn canlynol yn ei ddull difyr: Ychydig amser cyn ei farwolaeth daeth Mr. Jones i dalu ei ymweliad olaf ag ardal Penmain. Treuliodd yno amryw ddiwrnodau, gan bregethu bob nos mewn gwahanol anedd-dai. Elai Mr. Thomas gydag ef o fan i fan trwy y gymydogaeth. Un prydnhawn, wrth eu bod yn myned trwy bentref Crumlin, galwodd dynes ar eu hol, a deisyfodd arnynt droi i dy yno, lle yr oedd hen wraig yn glaf iawn, i ddarllen a gweddio. Gofynodd Mr. Jones, yr hwn a adwaenai bawb yn y pentref, pwy ydoedd. Pan ddywedwyd ei henw wrtho, "Gweddio gyda honyna," ebe fe, "na weddiaf fi, y mae yr hen greadures yna yn witch." Ceisiai Mr. Thomas ei berswadio i fyned i'r ty, ond ni wnai. Pan welodd fod Mr. Thomas yn awyddu am fyned, dywedodd wrtho, "Wel, os wyt ti yn ymglywed a gweddio gyda hi, dos i mewn, a minau a safaf wrth y drws." Felly y bu. Yr oedd gwely yr hen wraig glaf mewn ystafell fechan ar y llawr, a'r ddaear oddiallan o fewn troedfedd at waelod y ffenestr, yr hon oedd yn agored, i'r glaf gael awyr. Safai Mr. Jones wrth ddrws yr ystafell, ac aeth Mr. Thomas ar ei liniau rhwng gwely yr hen wraig a'r ffenestr agored, a dechreuodd weddio. Pan oedd ar ganol ei weddi daeth bytheuad mawr at y ffenestr o'r tu allan, gan osod ei ddwy droed flaen ar gareg y ffenestr, a'i ben i mewn, ac udo mewn seiniau oernadus.
"Dyna," ebe Mr. Jones, gan ymaflyd yn mraich Mr. Thomas, "Gad hi yn awr, mae ei pherchen yn dyfod i'w nhol hi." Felly aethant i ffwrdd, ac nid oedd dim a dynai o ben yr hen ŵr nad cythraul yn ffurf ci oedd wedi dyfod yno i gymeryd meddiant o'r hen wraig. Na thybied neb mai gwendid hen Gymro yn unig oedd yr hygoeledd hyn. Yr oedd Luther, Baxter, a John Wesley, yn llawn mor hygoelus ag Edmund Jones.
Yn awr, trown oddiwrth wendidau yr hen Gristion da, i daflu cipolwg ar ei ragoriaethau. Yr oedd yn weithiwr difefl. Pe buasai ei ddydd-lyfrau wedi cael eu cadw heb eu difrodi, gan ddynion na wyddent eu gwerth, buasai genym bethau rhyfedd i'w cofnodi. Mae yn debygol nad oes dim ond naw o'i ddyddlyfrau wedi diane rhag y difrod fu ar ei ysgrifeniadau. Dengys y naw hyn i raddau y fath lafur yr elai trwyddo. Yn 1731, pregethodd 104 o weithiau; yn 1732, bu am rai misoedd yn glaf iawn, ond pregethodd er hyny 76 gwaith; yn 1739, 240; yn 1768, 300; yn 1770, 337; yn 1773, 511; yn 1778, 260; yn 1780, 340; ac yn 1789, yn yr wythfed flwyddyn a phedwar ugain o'i oed, pregethodd 405 o weithiau. Dylid cofio hefyd mai rhan o'i waith ef oedd pregethu. Teithiai ganoedd o filldiroedd bob blwyddyn, ac yn wastad ar ei draed a'i ffon yn ei law. Nid elai i un tŷ heb ddarllen a gweddio, a chymerai tua haner awr at y darllen, yr esponio a'r gweddio. Gwnelai hyny fynychaf trwy y flwyddyn amryw weithiau bob dydd. Nid elai i un ardal na theulu heb adael rhyw argraph ddaionus ar ei ol. Cofnoda ysgrifenydd cyntaf hanes ei fywyd engraifft darawiadol o'i ymdrech i wneyd lles i bawb. Yr oeddynt ill dau mewn tŷ, yn eistedd gyda eu gilydd. Daeth geneth fechan, nodedig o dlos, i mewn i'r ystafell atynt. Ymaflodd Mr.