Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones yn ei llaw, a thynodd ei law dros ei phen amryw weithiau, a dywedai wrth wneyd hyny, "O, fy anwyl blentyn, y fath weithiwr ardderchog yw Duw; mor brydferth yw y corff dynol; 0, y fath gorff hardd roddodd ef i chwi; mor hollol y dylai gael ei ddefnyddio yn ei wasanaeth ef, i'w ogoneddu! O'r fath golled fyddai i'r corph tlws hwn fyned i uffern! O, fel y byddai cythreuliaid yn gorfoleddu am hyny!" Yna torodd allan i wylo yn hidl. Byddai yn arfer siarad yn y modd hwn a phlant pa le bynag yr elai. Crybwyllasom ei enw tua deng mlynedd yn ol wrth hen wraig bedwar ugain oed. Bywiocâodd ei hwynebpryd gyda y son am ei enw, "Cofio Mr. Jones, o'r Transh," ebe hi, Ydwyf, ac nid anghofiaf ef byth. Bu ei ddwylaw ar fy mhen i, a dywedodd bethau rhyfedd wrthyf." Dydd y farn yn unig a ddengys pa faint o ddaioni a wnaeth yn mhob lle, ac i bob gradd ac oed.

Yr oedd ei sel a'i hunanymwadiad gyda yr achos goreu yn ddiail. Pwy ond dyn yn berwi gan sel a chariad at Dduw a'i dŷ fuasai yn rhoddi deg punt ar hugain o'r unig ddeugain punt oedd ar ei helw at adeiladu y ty cyfarfod, ac a werthasai werth pymtheg punt o'i lyfrau i orphen talu am dano? Nid enw nac elw, ond gogoniant Duw a lles eneidiau, a barai iddo gerdded ugeiniau o filldiroedd i wasanaethu cynnulleidfaoedd am dri neu bedwar swllt. Cofnoda yn ei ddyddlyfrau ei fod yn myned o Gwm Ebbwy, yn sir Fynwy, i Gwmllynfell a Gwynfe i dreulio Sabbothau, heb dderbyn mwy na thri swllt a chwe' cheiniog am ei lafur. Ie, cawn iddo fyned cyn belled a Llanbrynmair i wasanaethu am ddau Sabboth yn 1732, lle y derbyniodd bum swllt a chwe' cheiniog am ei wasanaeth, ac ni rydd yr awgrym lleiaf fod y tâl yn anfoddhaol ganddo.

Yr oedd ei ffydd yn Nuw, a'i ymddiried yn ei Ragluniaeth yn ddisigl. "Jehofah Jireh—yr Arglwydd a ddarpara"—oedd ei arwyddair gwastadol. Treuliodd ei holl fywyd yn yr hyn a eilw dynion y byd yn sefyllfa o dlodi mawr, ond ni bu arno erioed eisiau dim. Chwe' phunt yn y flwyddyn oedd ei gyflog sicr, fel y dywedir, am rai blynyddau, sef tair punt oddiwrth ei eglwys, a thair o'r Drysorfa Gynnulleidfaol o Lundain. Ymddibynai am y gweddill o dreuliau ei gynaliaeth ar ragluniaeth noeth. Byddai rai prydiau ar fin newyn a noethni, ond nid ymddengys i bryder yn nghylch ei amgylchiadau erioed derfysgu dim ar ei fynwes. Anfonai cyfeillion o bell ac agos anrhegion iddo, ac yr oedd yr anrhegion hyny yn dyfod fynychaf i law, pan fuasai y dyrnaid diweddaf o'r blawd wedi ei gymeryd o'r celwrn, a'r diferyn olaf o'r olew wedi ei dywallt o'r ysten. Cedwid ef felly mewn ymddibyniad gwastadol a disgwyliad beunyddiol wrth yr Arglwydd. Gallasai brofiadol trwy ei oes ganu,

"Ti wnei wyrthiau os bydd achos
Cyn yr elo'r gwan i lawr,
Mae dy enw er y cynfyd
Wedi swnio'n enw mawr."


Yr oedd ei haelioni yn ddifesur. Os gwelsai ryw un mewn angen, estynasai iddo y geiniog ddiweddaf ar ei elw. Ie, mae genym hanes iddo unwaith dynu ei grys oddiam dano a'i wisgo am ddyn haner noeth, a gyfarfuasai ar y mynydd, ar ddiwrnod oer. Pan ddaeth adref, dywedodd wrth ei wraig yr hyn a wnaeth. Canmolodd hithau ef, gan ddywedyd, "Da y gwnaethoch i dosturio wrth y tlawd. Mae yr Arglwydd wedi talu yr echwyn yn dda eisoes. Gynneu daeth gwas Mrs.——— yma a gwlanen chwech o grysau yn anrheg i chwi."