Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond y peth a goronai ei holl ragoriaethau, oedd ei dduwioldeb seraphaidd a'r cymundeb cyson a ddaliai a'r Arglwydd. Treuliai ei holl amser i siarad a Duw dros ddynion, neu a dynion dros Dduw. Byddai am oriau bob dydd yn ei ystafell yn gweddio. Gwlychai y cadeiriau a'r llawr a'i ddagrau, wrth ymdrechu a'r Arglwydd mewn ymbiliau a gweddiau, ac anrhydeddwyd ef ag atebion anghyffredin a hynod i lawer o'i weddiau. Rhagfynegodd lawer o bethau rhyfedd am bersonau, lleoedd, a phethau, y rhai a ddaethant i ben yn ol ei air, ac o herwydd hyny edrychid arno fel un yn meddu ysbryd prophwydoliaeth. "Yr hen brophwyd" oedd yr enw wrth ba un yr adwaenid ef yn gyffredin. Mae yn amlwg fod "dirgelwch yr Arglwydd gydag ef" fel dyn a ofnai Dduw, ac a rodiai yn wastadol gydag ef, pa un bynag a ddatguddid pethau yn oruwchnaturiol iddo a'i peidio.

Gan fod ynddo gydgyfarfyddiad o'r holl ragoriaethau rhagrybwylledig, nid yw yn rhyfedd ei fod yn cael ei barchu, ac edrych i fynu ato gan ddynion da o bob sefyllfa. Yr oedd yn un o gyfeillion mwyaf mynwesol Iarlles Huntingdon. Ymwelai yn fynych a'i Hathrofa hi yn Nhrefecca, a derbyniodd lawer o anrhegion o'i llaw hi, a phendefigesau eraill, ac yn eu plith fantell nodedig, yr hon a wisgai bob amser yn mlynyddau diweddaf ei oes, ac a wnelai ei ymddangosiad yn hynod ac urddasol iawn. Ysgrifenai ei Harglwyddiaeth un tro, pan yr oedd Mr. Jones newydd ymadael o Drefecca: "Mae yr Hen broffwyd anwyl newydd ein gadael. O y fath Sant bendigedig ydyw; mor ymroddgar; mor fywiog; mor weithgar. Mae yn wastad yn sychedu am gymundeb cyflawn a Thad y goleuni. Bydd ei anerchiadau cyffrous i'r myfyrwyr, a'i weddiau taerion ac effeithiol am eu llwyddiant, yn sicr o gael eu dilyn gan fendith." Cyhoeddodd Mr. Jones amryw lyfrau; megys pregeth angladdol i Mr. Evan Williams, yn nghyda hanes helaeth o'i fywyd; pregethau ar y creaduriaid yn myned i'r arch, ac ar wallt Samson; Goleuni yr Efengyl; Hanes plwyf Aberystruth; Y llyfr ar ymddangosiadau ysbrydion, a rhai mân draethodau eraill. Gorphwysa ei lwch yn mynwent Ebenezer, hyd foreu yr "adgyfodiad gwell."

EBENEZER JONES. Ganwyd ef yn y Wernfelen, yn mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, yn sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1769. Derbyniwyd ef yn ieuangc iawn yn aelod eglwysig yn Mhentre-tŷ-gwyn. Nis gwyddom pa bryd y dechreuodd bregethu. Mae yn debygol iddo ddechreu cyn ei fod yn ugain oed. Yn haf y flwyddyn 1790, anfonodd gyffes o'i ffydd a chais am dderbyniad i athrofa Croesoswallt, at y Bwrdd Cynnulleidfaol. Cymeradwyid ei achos gan Thomas Thomas, Pentre-tŷ-gwyn, Jonathan Jones, Rhydybont, Howell Powell, Esgairdawe, a Thomas Bowen, Maesyronen. Mae y papurau hyn yn awr ger ein bron. Cymeradwywyd yr achos gan y Bwrdd, a derbyniwyd ef i'r athrofa Hydref 4ydd, 1790; ond nid ymddengys iddo fod yno yn hir. Symudodd i athrofa Caerfyrddin, yr hon a gedwid y pryd hwnw yn Abertawy. Mae yn debygol mai y rheswm o'i symudiad ydoedd i'w frawd, John Jones, LL.D., gael ei benodi yn un o'r athrawon i'r athrofa yn Abertawy. Yn y flwyddyn 1795, dewiswyd ef gan eglwys Ebenezer yn ganlyniedydd i'r enwog Edmund Jones. Nid oes genym unrhyw fanylion o berthynas i'w urddiad. Dywedir mai Mr. E. Skeel, Abergavenny, ddarfu weddio yr urddweddi. Yr oedd y rhan fwyaf o'r eglwys wedi bwriadu rhoddi galwad i Mr. Thomas Phillips, wedi hyny o'r Neuaddlwyd, ond pan glywsant Mr. Jones, trodd y lluaws o'i dy ef; oblegid meddir, i'r "Hen brophwyd" ragfynegu mai "Ebenezer" fuasai enw ei ganlynied-