Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydd ef. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Ebenezer, cymerodd ofal yr eglwys Annibynol yn Brynbiga, a gwasanaethodd y ddwy eglwys hyd derfyn ei

Yn Rhagfyr, 1820, cafodd ergyd trwm yn marwolaeth ei wraig ragorol, ar ol dros naw wythnos o gystudd trwm. Gadawodd ei phriod a saith o blant ieuaingc mewn adfyd a galar mawr. Yr oedd Mrs. Jones yn wyres i'r enwog Abraham Williams, gweinidog y New Inn, a Brynbiga, a chladdwyd hi yn medd ei thaid yn nghapel Brynbiga. Bu Mr. Jones farw Ionawr 31ain, 1829, a chladdwyd ef wrth gapel Ebenezer.

Yr oedd Ebenezer Jones yn un o'r dynion harddaf o gorff a mwyaf boneddigaidd ei ymddangosiad yn yr holl wlad. Yr oedd yn siaradwr hyawdl heb ei ail. Nis gallasai neb feddwl wrth ei glywed yn parablu y Gymraeg y gwyddai air o'r Saesoneg, ac wrth ei wrandaw yn llefaru yn Saesoneg, ni allesid deall y medrai air o Gymraeg. Yr oedd yn bregethwr melus odiaeth, a dywedai Mr. Hughes o'r Groeswen, y buasai y pregethwr mwyaf yn yr holl fyd, oni buasai i anghenion ei deulu lluosog ei orfodi i roddi llawer o'i amser at drafod pethau tymorol. Cyfrifid ef yn un o'r amaethwyr goreu yn sir Fynwy, ac edrychid i fyny ato gan foneddigion yr holl wlad, yn gystal a'r bobl gyffredin. Bu am fwy nag ugain mlynedd yn gyfieithydd yn y brawdlysoedd yn Nhrefynwy a Brynbiga. Dywedir i un o'r barnwyr yn Nhrefynwy unwaith gael ei daro a'r fath syndod at brydferthwch ei ymddangosiad, ei foneddigeiddrwydd, a'r hyawdledd fel siaradwr, nes y dywedodd wrth y boneddigion oedd o'i amgylch, "Gresyn fod y gwr yna yn Ymneillduwr, efe a wnelsai Esgob campus." Yr oedd ef yn esgob, a chyflawnodd waith esgob yn fwy effeithiol na chanoedd o rai a dderbynient filoedd yn y flwyddyn am eu gwaith.

EVAN ROWLANDS. Ganwyd ef yn ngwanwyn y flwyddyn 1792, yn Nghwm Tafolog, yn sir Drefaldwyn, tua dwy filldir o bentref Mallwyd. Nid oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac felly ni chafodd y fantais o gael ei feithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ni chafodd hefyd yn moreu ei oes ond y peth nesaf i ddim o fanteision i ddyfod yn ysgolhaig. Dysgodd rywfodd ddarllen Cymraeg cyn ei fod yn ddwy-ar-bymtheg oed, a phrynodd Feibl Cymraeg y pryd hwnw. Cafodd ei enill at grefydd trwy weinidogaeth yr efengylwr duwiol a llafurus Mr. William Hughes, Dinas Mawddwy. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y flwyddyn 1814, pan yr oedd yn ddwy-ar-hugain oed. Yn mhen rhyw gymaint o amser wedi hyny dechreuodd bregethu. Ar ol dechreu pregethu aeth i ysgol a gedwid yn y Dinas gan Mr. O. Owens, wedi hyny o Resycae. Aeth oddiyno i ysgol y Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Nis gwyddom pa cyhyd y bu yno, ond trwy ymroad diorphwys tra yn yr ysgol, ac ar ol hyny, daeth yn ysgolhaig rhagorach na chanoedd o bregethwyr a gawsant lawer gwell manteision. Yr oedd yn deall y Gymraeg a'r Saesoneg yn dda, ac yn medru ysgrifenu y naill a'r llall o honynt yn ramadegol. Medrai hefyd wneyd llawer a r Hebraeg a'r Groeg, trwy gynnorthwy Geiriaduron. Derbyniodd alwad oddi—wrth yr eglwysi yn Nghapel Helyg a Rhosylan, sir Gaernarfon, yn 1824, ac urddwyd ef yno ar y 7fed a'r 8fed, o Ebrill, y flwyddyn hono. Yn nghyfarfod yr urddiad gweddiwyd ar y dechreu gan Mr. LI. Samuel, Bethesda; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. D. Griffiths, Talysarn; gofynwyd y gofyniadau arferol gan Mr. T. Lewis, Pwllheli; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. W. Hughes, Dinas; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Dr. T. Phillips; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Ar ol bod yn llafurio yn y cylch hwnw am bum' mlynedd, symudodd Mr.