Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rowlands i Bontypool, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu farw Ebrill 23ain, 1861, yn 69 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Ebenezer, yn ymyl ei ragflaenafiaid enwog Edmund ac Ebenezer Jones.

Yr oedd Mr. Rowlands yn ddyn pur iawn yn ei fuchedd; ni chyhuddwyd ef erioed gan un dyn o unrhyw gamymddygiad. Yr oedd yn gyfaill mor ddidwyll ag a rodiodd y ddaear erioed, ac yn ddyn diysgog a chydwybodol iawn. Yr oedd dipyn yn arw ac yn sarug tuag at rai y buasai yn tybied nad oeddynt yn ddynion hollol ddidwyll, a dichon i hyny fod yn anfantais iddo mewn rhai amgylchiadau. Yn y flwyddyn 1855, darfu i ni ar gais cyfaill, ysgrifenu darluniad byr o Mr. Rowlands fel dyn a phregethwr, a chan na chawsom achos i newid ein barn am dano o'r pryd hwnw hyd yn awr, caiff y darluniad hwnw wasanaethu fel diweddglo i'n bywgraffiad byr o'r gwr da: "Mae Mr. Rowlands oddeutu 63 oed. Yn ddyn o gorph mawr, nodedig o luniaidd, tua phump troedfedd a deg modfedd o daldra—ei wyneb yn arw iawn gan ol y frech wen; ond y mae ei dalcen mawr, llawn, a'i ddau lygaid bywiog a siriol, yn fwy na digon o iawn am eirwindeb ei wyneb. Y darluniad goreu a allwn roddi o'i feddwl, yw dyweyd ei fod yn debyg i'w gorph, yn un mawr, garw, lluniaidd, a nerthol. Dichon nad oes nemawr o weinidogion, os oes un, yn Neheudir Cymru, wedi darllen mwy o weithiau duwinyddion hen a diweddar na Mr. Rowlands. Mae ei lyfrgell yn cynnwys amryw ganoedd o gyfrolan, yn yr argraffiadau goreu, o weithiau y prif dduwinyddion, o'r oes Buritanaidd i lawr hyd yr oes hon; a thybiwn nad oes un ddalen o'r cyfrolau hyn heb ei throi ganddo a'i darllen yn ofalus. Yn gymaint a'i fod yn ddarllenwr mor fawr, gellir casglu yn naturiol fod ei bregethau yn gyfoethog o ddrychfeddyliau, ac mai nid cruglwyth o bennau llymion ydynt. Rhana ei bregethau yn drefnus i bennau a changhenau; ond nid gyda rhyw dlysni benywaidd. Nid mewn pertrwydd y mae rhagoriaeth ei bregethau yn gynnwysedig; ond mewn cydgasgliad o feddyliau grymus, nodedig am eu newydd-deb (freshness), er nad ydynt ond anfynych wedi eu caboli yn ofalus. Mae yn nghwrs cyffredin ei weinidogaeth gydgyfarfyddiad dedwydd iawn o'r athrawiaethol a'r ymarferol. Anfynych y clywir ef yn traddodi pregeth athrawiaethol, heb un ergyd ymarferol ynddi; nac ychwaith bregeth ymarferol, heb un nodiad athrawiaethol. Yn ei ieithwedd hefyd, ceidw ar lwybr canolog, rhwng y rhai a draddodant eu meddyliau mewn iaith sych a diaddurn, a'r rhai a'u claddant dan haenau o eiriau chwyddedig a brawddegau blodeuog. Mae Mr. Rowlands yn draddodwr hapus iawn—parabla yn eglur—nid yw un amser yn ddiffygiol o ddigon o eiriau cryfion a phwrpasol; ac y mae ganddo lais cryf a pherseiniol, a'r fath lywodraeth ar agwedd ei wyneb—pryd, fel y llefara ei olwg yn llawn mor effeithiol a'i eiriau. Ei drefn gyffredin yw siarad yn weddol araf, ond nid yn farwaidd, am yr haner awr gyntaf, gan bwysleisio yn gryf yn awr a phryd arall; ac yna, am yr ugain munud diweddaf (canys ychydig gyda thri chwarter awr yw hyd ei bregethau), cyfyd ei lais yn uchel, a thônia ef yn anarferol o beraidd, dair neu bedair o weithiau yn ystod yr amser hwnw; a bydd ei wrandawyr gyda phob toniad a rydd i'w lais, mewn tymer i waeddi allan, 'melus, moes etto.' Medrai ganu ei bregethau mor effeithiol a neb pwy bynag; ond ni chlywsom ef erioed yn gwneyd hyny, canys pregethwr ac nid fiddler ydyw. Saith mlynedd ar hugain i'r haf hwn y clywsom ef yn pregethu gyntaf. Gwrandawsom ef y pryd hwnw chwech neu saith o weithiau; a phe na buasem wedi ei weled na'i glywed byth wedi hyny, yr ydym yn