Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sicr nas gallasem ei anghofio. Er ei fod yn awr mewn gwth o oedran, nid ydym yn gallu deall fod ei feddwl, na'i beirianau llafar wedi anmharu yn y mesur lleiaf. Dichon ei fod yn ei ddull cyffredin o draddodi, yn ystod y deg neu y pymtheg mlynedd diweddaf, wedi myned ryw faint yn fwy gwasgarog (diffusive), a thrwy hyny i raddau, a'r amserau yn llai effeithiol; ond rhodder ef i bregethu yn olaf o dri ar ddiwedd cymanfa, neu gyfarfod chwarterol, pryd na byddo ganddo o'r eithaf dros o haner awr i ddeugain munud o amser, a mil i un na bydd ef yn sicr o'i ergyd. Clywsom ef yn ddiweddar ar ddau o amgylchiadau felly, yn bwrw allan ddrychfeddyliau fel peleni o dân, nes cynhyrfu cynnulleidfaoedd mawrion fuasent wedi lluddedu wrth wrandaw deg neu ddeuddeg o bregethau, yn ystod y diwrnod hwnw, mewn capel gorlawn, nes y buasent oll yn sefyll ar eu traed, wedi llwyr anghofio eu lludded; ac ar ei waith yn diweddu, teimlai pawb yn siomedig, am na buasai yn parhau am awr yn ychwaneg. Dyna ddarlun—iad byr ac anmherffaith, ond cywir, feddyliwn, cyn belled ag yr a, o Mr. Rowlands fel dyn ac fel pregethwr. Mae ei enw a'i nodweddiad, fel gwein—idog da i Iesu Grist, yn deilwng o'u trosglwyddo i lawr i'r oesoedd a ddel."

Mae Mr. Hughes, Penmain, wedi ysgrifenu cofiant rhagorol o Mr. Rowlands, ac wedi ei gyhoeddi yn llyfryn.

Am y ddau weinidog a ddilynodd Mr. Rowlands, gan eu bod etto yn fyw, ni ddywedwn ragor nag a ddywedasom eisoes; ond yn unig y dymunem iddynt gael oes hir i fod yn ddefnyddiol, a gweled dyddiau da eu blaenafiaid.

NEW INN.

Mae cryn lawer o gamgymeriad yn bod gyda golwg ar ddechreuad yr achos yn y New Inn, Mynyddislwyn, a'r Groeswen. Dywedir mai aelodau o'r eglwysi plwyfol ddarfu ddechreu yr achos yn y tri lle, ond yr ydym ar seiliau cedyrn yn amheu cywirdeb y fath ddywediad, a gallwn gyfrif yn hawdd am ddechreuad y traddodiad sydd yn yr eglwysi hyn, mai o'r Eglwys Sefydledig y daeth eu sylfaenwyr allan.

Yr oedd ardaloedd y New Inn, Mynyddislwyn, a'r Groeswen, yn llawn o Ymneillduwyr er's mwy na phedwar ugain mlynedd cyn cyfodiad Methodistiaeth. Pan ddechreuodd y son am bregethu rhyfeddol a phoblogaidd Howell Harries, yn sir Frycheiniog, ymdaenu ar hyd y wlad, darfu i amryw o weinidogion enwocaf yr Ymneillduwyr yn Morganwg a Mynwy, megys Henry Davies, Blaengwrach; James Davies, Merthyr; David Williams, Watford; ac Edmund Jones, wedi hyny o Bont-y-pool, ei gymhell yn y modd taeraf i ddyfod i'w hardaloedd hwy i bregethu. Cydsyniodd a'u cais, a'r canlyniad fu i ddiwygiad crefyddol grymus ddechreu yn mhob un o'r ardaloedd hyn. Darfu i lawer iawn o aelodau yr eglwysi Ymneillduol deimlo nerth yr adfywiad, a myned lawer yn wresocach yn eu crefydd nag yr oeddent yn flaenorol, a chafodd niferi mawr o'r gwrandawyr yn y capeli Ymneillduol eu dwyn i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Sefydlodd Mr. Harries yn fuan gymdeithasau (societies) mewn amryw ardaloedd, ac yn yr ardaloedd dan sylw yn mhlith eraill. Nid ar y cyntaf, fel yr ymddengys, gydag unrhyw fwriad i osod i fyny gyfundeb crefyddol newydd, ond yn unig er mwyn maethu y dychweledigion