Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/111

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ieuaingc mewn crefydd brofiadol, gan eu gadael at eu dewisiad i fyned lle y gogwyddid hwy yn aelodau eglwysig. Ond cyn gynted ag yr ymunodd Rowlands, Llangeitho, a rhai offeiriaid eraill, a'r mudiad, newidiodd agwedd pethau. Gosodwyd cynllun ar droed i wneyd yr holl rai a hoffent weinidogaeth Harries, Rowlands, ac eraill o'r Methodistiaid, yn gyfundeb o Eglwyswyr Methodistaidd, a gwaherddid hwy yn bendant i fyned i gymuno i gapeli yr Ymneillduwyr, ond disgwylid iddynt gymuno yn yr Eglwysi plwyfol, gan nad pa mor ddigrefydd bynag y gallasai yr offeiriaid yn yr Eglwysi hyny fod.

Gan fod tri o bob pedwar o ddysgyblion Harries, yn yr ardaloedd hyn, yn Ymneillduwyr wedi eu Methodisteiddio, nid oedd yn hawdd cael ganddynt droi yn Eglwyswyr, a'r canlyniad fu iddynt yn mhen ychydig iawn o flynyddau droi drachefn yn Ymneillduwyr. Pe buasai Harries a Rowlands yn gosod i fyny gyfundeb Methodistaidd ar y pryd, heb gynyg llusgo y bobl i'r Eglwysi plwyfol, buasai agos pob un o Ymneillduwyr y parthau hyn, a deimlasant adfywiad trwy eu gweinidogeath, yn debygol o lynu wrthynt hwy, ond yr oeddynt yn ormod o Ymneillduwyr i gymeryd eu gwneyd yn Eglwyswyr. Yn hytrach na myned i'r Eglwysi plwyfol i dderbyn y cymun mynent gael y pregethwyr mwyaf poblogaidd yn eu plith eu hunain i weini yr ordinhadau iddynt. Dywedir i bobl y New Inn a'r Groeswen anfon cenhadau i Langeitho at Rowlands i gael ei farn ar yr achos, ac iddo eu cynghori, os na allent gael ar eu meddyliau i gymuno yn y llanau, i urddo eu pregethwyr eu hunain i weini yr ordinhadau. Yr ydym yn credu i Rowlands roddi y cynghor hwn i genhadau y New Inn a'r Groeswen, nid am ei fod yn barnu ei bod yn beth rheolaidd i'r aelodau urddo y gweinidogion, ond am mai dyna yr unig ffordd i'w cadw rhag ymadael yn hollol ac ar unwaith a'r Methodistiaid. Pe buasai efe, a'i frodyr offeiriadol, yn eu hurddo, buasent yn cael eu bwrw allan o'u bywioliaethau eglwysig yn ddiseremoni, a phe buasai yn eu cynghori i alw gweinidogion yr Ymneillduwyr i urddo eu pregethwyr, rhagwelai y buasai y cynnulleidfaoedd yn tori eu cysylltiad a'r Methodistiaid ar un—waith, ac yn dychwelyd at yr Ymneillduwyr. Trwy fabwysiadu y cynllun o urddo y pregethwyr eu hunain, cadwyd hwy yn rhyw haner Methodistiaid hyd yn agos i ddechreu y ganrif bresenol.

Mae yn debygol fod dysgyblion Harries yn ardaloedd y New Inn, Mynyddislwyn, a'r Groeswen, mewn ufudd-dod i'w gais ef, wedi bod rai gweithiau yn derbyn y cymun yn yr Eglwysi plwyfol, a thyna sail y traddodiad mai o'r llanau y daethant allan; ond nid oeddynt yn fwy o Eglwyswyr na ninau. Yn awr gyda golwg ar ardal y New Iun. Yr oedd Ymneillduaeth wedi gwreiddio yma er's ugeiniau o flynyddau. Yn 1718, yr oedd, fel y gwelsom, gynnulleidfa o bedwar ugain a deg o bobl yn Nhrosnant; cynnulleidfa o gant yn Llandegfeth; un o gant ac ugain yn y Goitre; ac un o bymtheg a deugain yn Llanfrechfa; ac yn y pedair cynnulleidfa hyn, nid oedd dim llai na saith o foneddigion, deuddeg-ar-hugain o ddynion yn byw ar eu tiroedd eu hunain, a phedwar-ar-bymtheg-ar-hugain o amaethwyr yn talu rhent am eu tiroedd, heblaw amryw fasnachwyr a gweithwyr. Mae hyn, feddyliwn, yn ddigon i gyfrif am ddechreuad achos y New Inn, a methiant Harries a Rowlands i wneuthur eglwyswyr Methodistaidd o'r bobl, heb fyned yn ol y traddodiad, i Eglwys Llanfrechfa at ryw offeiriad o'r enw Evans i chwilio am ei gychwynwyr. Gallasai fod rhai o'r aelodau cyntaf wedi bod yn cymuno yn achlysurol yn Llanfrechfa, ac eglwysi eraill, ar gais Harries a Rowlands, ond nid oes genym un sail i farnu fod