Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymaint ag un o honynt wedi cael eu henill at grefydd trwy weinidog—aeth un offeiriad yn y gymydogaeth.

Yn fuan ar ol ymweliad cyntaf Mr. Harries a sir Fynwy, yn 1738, mae yn ymddangos i amryw gymdeithasau gael eu sefydlu yno. Mewn llythyr at Mr. Harries, oddiwrth Mr. David Williams, gweinidog y Watford, dyddiedig Chwefror 7fed, 1739, dywed yr ysgrifenydd, "Bum neithiwr yn ymweled a'ch cymdeithas yn Llanhiddel, lle y canfyddais fesur helaeth o'ch ysbryd rhydd a charedig chwi. Yr wyf yn gobeithio fod gan Dduw waith i chwi i'w wneyd yn y wlad hon y gwanwyn hwn, yn enwedig yn sir Fynwy. Yr wyf fi yn genad atoch, dros y cyfeillion yn nghymydogaethau y Casnewydd a Chaerlleon, i ddeisyf arnoch ymweled a'r lleoedd hyny. Yn 1741, bu Mr. Henry Davies, Blaengwrach, yn ymweled ag amryw o'r cymdeithasau hyn, ac yn pregethu iddynt. Yn 1743, penodwyd Mr. Morgan John Lewis i fod yn un o arolygwyr y cymdeithasau hyn; ac yn ei adroddiad am y flwyddyn 1744, dywed iddo fod y Sabboth cyn ei fod yn ysgrifenu, yn agos i'r New Inn, y Glasgoed, a'r Goitre, a bod yr Arglwydd yn datguddio llawer o hono ei hun i'r eneidiau yn mhob un o'r lleoedd hyn.[1]

Yr hanes a roddir am ddechreuad yr achos yn y New Inn, ydyw i ddeg o bersonau gyduno i roddi pum' punt yr un at brynu hen anedd-dy cyfleus yn agos i'r Gwesty a elwir y New Inn, yn mhlwyf y Panteg,—iddynt dalu deg punt ar hugain am dano, a'i gyfaddasu i fod yn lle addoliad.

Mae yn lled debygol i hyn gymeryd lle tua'r flwyddyn 1740 neu '41. Morgan John Lewis, Abraham Williams, William Williams, &c., oedd yn pregethu iddynt fynychaf. Yn y flwyddyn 1751, ymffurfiasant yn eglwys Annibynol, ac yn mhen pum' mlynedd wedi hyny, sef dydd Llun Sulgwyn 1756, darfu i'r aelodau, yn ol cyfarwyddyd Mr. Rowlands, Llangeitho, os gwir y traddodiad, urddo Morgan John Lewis i fod yn weinidog iddynt. Gan fod y dull hwn o urddo yn groes i olygiadau ac arferiad yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr, mae yn debygol i'r peth greu cryn gynhwrf yn mysg pob plaid, a myned yn destyn siarad cyffredinol. Beïid a cheblid hwy gan rai yn lled ddiarbed, a gosodid hwy allan fel haid o ddynion cyfeiliornus iawn. Mewn trefn i'r wlad gael golwg gywir ar eu syniadau fel eglwys, argraffasant y gyffes ffydd a fabwysiadwyd ganddynt ar ddydd corpholiad yr eglwys yn 1751, a thrachefn ar ddydd urddiad eu gweinidog cyntaf. Ysgrifenwyd rhagymadrodd i'r gyffes hon gan y gweinidog, yr hwn sydd fel y canlyn: "Mae yn beth agos anghyffredin yn Nghymru i osod allan Gyffes o ffydd: ond yr wyf fi yn meddwl pe bae ragor yn y ffordd hon yn cael eu wneuthur, y byddai yn fesur o gymorth i wasgaru rhyw faint o'r anwybodaeth sydd yn y wlad; er o bosibl na byddai rhai gwyr da yn cytuno, yn enwedig yn mhob peth amgylchiadol. Yr wyf ar ddeisyfiad y cyfeillion, a ddewisasant y drefn hon o ddysgyblaeth eglwys, yn gosod allan y meddyliau a ganlyn, er mwyn eu hadeiladaeth hwy, ac er mwyn i'r neb a fyddo yn dewis ymuno a nyni, wybod yn dda a pha natur o eglwys y maent yn ymuno: canys peth hollol ddinystriol (oddieithr i Ras ragflaenu) yw ymuno a neb eglwysi heb ymuno a'r Arglwydd Iesu; a pheth gwan mewn cristionogion yw ymuno ag un eglwys heb wybod ei Hegwyddorion a'i Rheolau.

  1. Methodistiaeth Cymru, Cyf. iii, 371.