Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/113

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llawer o ddyeithrwch, chwerwder, anfrawdgarwch, a dirmyg a daflwyd arnom gan amryw; ac fe'n gwrthwynebwyd yn gyhoeddus y cyfle cyntaf a gafwyd; yn enwedig ar y pen yn nghylch ordeinio; ond y mae'r ffordd yr ydym ni wedi ei phroffesu yn ymddangos i ni yn fwy cydsyniol a threfn yr efengyl, ac yn ateb y dyben yn well ar y dewisiad cyhoeddus, neu ordinasiwn gweinidogion. Dymunwn i'r Arglwydd ein cynnorthwyo bawb i gydoddef ein gilydd mewn cariad."

Mae y gyffes yn rhy faith i'w gosod i mewn yma. Digon yw hysbysu y darllenydd mai Calfiniaeth yw yr athrawiaeth a broffesir, ac mai Annibyniaeth yw y ffurflywodraeth eglwysig a osodir allan ynddi. Mae yn gynnwysedig o un-ar-bymtheg o erthyglau.

Dywed Mr. Davies, yn yr hanes byr o'r eglwys yn y New Inn, a gyhoeddwyd ganddo yn 1851, i Morgan John Lewis fod yn weinidog yno am yr yspaid o bymtheg mlynedd, ond y mae hyny yn amheus iawn. Mae yn sicr iddo fod yn pregethu yn lled gyson i'r gynnulleidfa yno am gyflawn bymtheg mlynedd, a chynnwys yr amser y bu yn eu gwasanaethu, cyn ac ar ol ei urddiad, ond yr ydym ni yn cael ein gogwyddo yn gryf i dybied iddo farw yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol iddo gael ei urddo, o herwydd y rhesymau canlynol: 1, Dystawrwydd dyddlyfrau Phillip Dafydd yn ei gylch. Yn ei ddyddlyfr am Medi 4ydd, 1757, dywed, "Y prydnawn heddyw bum yn hebrwng gweddillion marwol Morgan Lewis i'r bedd," a thyna y cwbl a ddywed am y marw, ond achwyna fod y bobl yn yr angladd yn ymddwyn yn anystyriol iawn. Mae dyddlyfrau Mr. P. Dafydd yn ein meddiant yn rheolaidd o Mai 28ain, 1757 hyd ddiwedd 1786, oddi—eithr ychydig fisoedd yn y blynyddoedd 1758, 1759, 1762, a 1765, ac nid oes un crybwylliad am enw Morgan John Lewis ynddynt o'r dechreu i'r diwedd, os nad efe yw y Morgan Lewis a grybwyllir yn y difyniad uchod. Gan fod Mr. P.Dafydd a Mr. Lewis wedi cael eu dwyn i fyny yn yr un ardal, mae yn sicr y buasai Mr. P. Dafydd yn cofnodi hanes ei farwolaeth, yr hon, os gwir y traddodiad, a gymerodd le dan amgylchiadau tra nodedig, os cymerodd le yn ystod un o'r blynyddau rhagrybwylledig. 2, Dywed Edmund Jones, yn Hanes Plwyf Aberystruth, yr hwn a argraffwyd yn 1779, ac yn ddiau a ysgrifenwyd flwyddyn neu ddwy cyn hyny, fod M. J. Lewis wedi marw er's amryw flynyddau. 3, Mae traddodiad mai pum' mlynedd ar hugain y bu Mr. Abraham Williams yn weinidog yn y New Inn, a chan iddo ef farw yn 1783, mae yn rhaid iddo ymgymeryd a'r weinidogaeth yno yn 1758, sef yn agos i'r amser yr ydym yn tybied i Morgan John Lewis farw. Pan glywsom mai yn mynwent Aberystruth y claddwyd ef, mynasom chwilio coflyfr y claddedigaethau yno o 1759 hyd 1771, ac nid oes un crybwylliad am dano yn y blynyddoedd hyny.

Bu Mr. Lewis, yr hwn oedd yn ddyn galluog, yn Gristion cywir, ac yn bregethwr nodedig o effeithiol, yn wasanaethgar iawn i'r achos yn y New Inn, mae yn debygol, o'i gychwyniad cyntaf hyd o fewn blwyddyn i'w farwolaeth. Dywed Mr. Davies yn ei hanes, iddo fod yn ddyrysedig yn ei synwyrau am y flwyddyn ddiweddaf o'i fywyd. Nid yw Mr. Edmund Jones yn dyweyd hyny, ond yn unig iddo gael ei feddianu gan bruddglwyf trwm ychydig cyn ei farw. Y peth nesaf at ddyrysu yn ei synwyrau oedd hyny. Ar ol i Mr. Lewis fethu bod o wasanaeth yn y weinidogaeth, cafodd dau frawd eraill o'r eglwys eu hurddo, yr un modd a'r gweinidog cyntaf, sef William Williams, ac Abraham Williams. Mae yn lled sicr mai yn y flwyddyn 1758 y cymerodd hyn le. Yn 1760, gofynodd eglwys