Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/114

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Aber, sir Frycheiniog, am fenthyg William Williams, a symudodd yno, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth yn 1800, ac felly ni ddarfu i bobl yr Aber byth ddychwelyd y benthyg i'r New Inn. Arosodd Abraham Williams gyda ei fam-eglwys hyd derfyn ei oes, a bu yn nodedig o boblogaidd a defn—yddiol. Rhanai ei lafur trwy ei holl fywyd rhwng y New Inn a Brynbiga. Gan fod gofal y ddau le arno, urddwyd Mr. Daniel James, aelod arall o'r eglwys, yn gynnorthwywr iddo, ar ol ymadawiad Mr. William Williams i'r Aber. Dywedir nad oedd Mr. James yn helaeth yn ei ddoniau fel pregethwr, ond gan ei fod yn Gristion teilwng, ac yn ddyn cyflawn iawn fel gwladwr, yr oedd yn cael ei werthfawrogi a'i barchu yn fawr, nid yn unig gan ei eglwys, ond gan y wlad yn gyffredinol.

Wedi marwolaeth Mr. Abraham Williams, a phan oedd Mr. Daniel James wedi myned i wth o oedran, cafodd Mr. Edward Francis, aelod ieuangc o'r eglwys, ei urddo yn gynnorthwywr. Yr oedd Edward Francis yn bregethwr galluog iawn, ac y mae yn lled sicr fod yr eglwys yn addaw iddi ei hun lawer o gysur oddiwrtho, ond er ei siomedigaeth a'i gofid syrthiodd i anfoesoldeb yn fuan ar ol ei urddiad, fel y bu raid ei ddiarddelu. Nid ymddengys iddo fod yno, fel gweinidog dros dair blynedd, sef o'r flwyddyn 1786 hyd 1789. Cafodd ei adferu drachefn i aelodaeth eglwysig, ac i bregethu, ond ni chydnabyddwyd ef mwyach fel gweinidog yn ei fam-eglwys. Yn y flwyddyn 1791, anfonodd yr eglwys lythyr at y Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, i ofyn am gymorth i gynal y weinidogaeth; a chan ei fod yn epistol synwyrol, ac yn taflu ychydig oleu ar helynt yr achos yn y lle, rhoddwn yma gyfieithiad o hono:—

"Eglwys Crist sydd yn ymgynnull i addoli Duw yn y Neuadd, neu y New Inn, yn sir Fynwy, at lywodraethwyr y Drysorfa Annibynol.

ANERCH.,

Yr ydym yn ostyngedig yn dymuno caniatad i osod ger eich bron ein sefyllfa a'n hamgylchiadau gyda golwg ar y weinidogaeth yn ein mysg, ac i ddeisyf eich sylw hynaws a haelionus â'n cais am gymorth i gynal y fendith anmhrisiadwy hon yn ein plith. Profasom ddaioni Duw tuag atom am lawer o flynyddau, trwy ein bendithio â gweinidogion duwiol, galluog, ac efengylaidd. Ond yn ddiweddar buom dan oruchwyliaeth dywyll a phruddaidd iawn. Yn gymaint a bod ein gweinid—og teilwng presenol, y Parch. Daniel James, wedi myned yn mhell yn mlaen mewn dyddiau, tybiasona y buasai yn ddoeth i ni urddo brawd arall (Mr. E. Francis) i fod yn gynnorthwywr iddo; ond er ein mawr dristwch efe a syrthiodd i bechod gwar—adwyddus, a thrwy hyny tynodd enw ac achos ein hanwyl Waredwr i gael eu cablu. Ond bendigedig fyddo Duw, y mae Efe wedi gweled yn dda i barhau bywyd a llafur ei was ffyddlon, Mr. D. James, i ni fel ein gweinidog hyd y dydd hwn. A chan ei fod ef mewn angen mawr am gynnorthwywr, yr ydym yn gobeith—io y darpara yr Arglwydd un i ni. Ond gan mai ychydig, ie ychydig iawn yn wir o'r cyfoethogion sydd wedi eu galw yn ein mysg, nid yw y swm a allwn wneyd at gynaliaeth y weinidogaeth ond bychan iawn. Yr ydym, gan hyny, dan yr angen. rheidrwydd o ddeisyf arnoch i barhau i ni eich rhodd flynyddol at gynal y weinid—ogaeth yn ein mysg. Yr ydym yn cydnabod gyda diolchgarwch a chariad y cym—orth a dderbyniasom oddiwrthych am lawer o flynyddoedd a aethant heibio, hyd at y flwyddyn ddiweddaf. Bu ataliad y rhodd y llynedd yn golled fawr i'n gweinidog, yr hyn sydd flin iawn genym.