Morgan Williams. Mae yn debygol ei fod ef yn un o sylfaenwyr yr achos yn y lle. Byddai yn cynnorthwyo eglwys yr Aber yn fynych cyn ac wedi dechreuad gweinidogaeth Mr. W. Williams yno. Hyn yw y cwbl a wyddom o'i hanes.
William Williams. Daw ef ynglyn a hanes eglwys yr Aber, a daw William George ynglyn a hanes eglwys Brynbiga.
John Jayne. Bu ef yn yr eglwys hon, ac eglwysi cymydogaethol, am lawer o flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol parchus. Yn fuan ar ol dechreuad y ganrif bresenol, symudodd i fyw i blwyf Llanfaple. Cyn gynted ag yr aeth yno dechreuodd bregethu mewn ty anedd, ond cyfododd yr offeiriad, a rhai eraill o'r plwyfolion, wrthwynebiad iddo, fel y bu raid iddo drwyddedu y tŷ cyn cael llonydd i bregethu ynddo. Yn mhen ychydig wedi hyny adeiladodd gapel ar ei dir ei hun. Bu farw tua y flwyddyn 1815.
George Williams oedd ŵr ieuangc gobeithiol a chymeradwy a ddechreuodd bregethu yma yn amser y gweinidog presenol. Y mae er's llawer o flynyddau wedi ymfudo i'r America. Ni wyddys yn awr pa un ai byw ai marw ydyw.
Daniel B. James. Y mae efe yn fab i Mr. Daniel James, Cwmbwrwch, am yr hwn y soniasom yn hanes Hanover. Cafodd ei addysgu yn yr athrofa Orllewinol, ac urddwyd ef yn Castle Green, Caerodor, 1868. Y mae yn weinidog ieuangc hyawdl a gobeithiol iawn.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
MORGAN JOHN LEWIS. Ychydig iawn o hanes personol y gwr da hwn sydd yn hysbys i ni. Cafodd ei eni a'i fagu yn Nghwm Ebbwy Fawr, yn mhlwyf Aberystruth, ond nis gwyddom amser ei enedigaeth, o herwydd fod Mr. Edmund Jones, yn ei hanes am blwyf Aberystruth, wedi bod yn rhyfeddol o esgeulus i roddi amseriad y dygwyddiadau a grybwylla. Nis gallwn, o herwydd yr un rheswm, benderfynu pa bryd y dechreuodd Mr. Lewis ei fywyd crefyddol. Ar ol son am ymweliad Mr. Howell Harries â Chwm Ebbwy, yn 1738, pryd y cryfhawyd y diwygiad crefyddol oedd wedi dechreu yno tua deunaw mlynedd cyn hyny, dywed Mr. Jones i bump o bersonau a ddychwelwyd yn y Cwm, "o gylch yr amser hwnw," fyned yn bregethwyr, ac un o'r pump oedd Morgan John Lewis. Ond y mae yr ymadrodd "o gylch yr amser hwnw," mor benagored fel y cynwysa unrhyw flwyddyn o 1720 hyd 1740, a gwyddys yr amcanai yr ysgrifenydd iddo gael ei ddeall felly, canys enwa Phillip Dafydd fel un o'r pump pregethwr a ddychwelwyd yn Nghwm Ebbwy "o gylch yr amser hwnw;" ac y mae yn ddigon hysbys fod Phillip Dafydd, nid yn unig wedi dechreu crefydda cyn 1738, ond ei fod wedi dechreu pregethu yn 1732, os nad yn 1731. Felly nis gallwn benderfynu pa bryd y cymerodd troedigaeth Morgan John Lewis le. Dichon mai yn 1738, neu tua phump neu ddeng mlynedd cyn hyny, o ran dim a ymddengys i'r gwrthwyneb yn hanes Edmund Jones. Pa fodd bynag, mae ei droedigaeth yn, neu cyn 1738 yn fatter o sicrwydd. Yr ydym yn cael ei enw fel pregethwr cyhoeddus yn hanes cymdeithasfa gyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, yr hon a gynaliwyd yn nghapel yr Annibynwyr, neu y Presbyteriaid, fel y gelwid hwy weithiau y pryd hwnw, yn y Watford, gerllaw Caerphili, Ionawr