5ed a'r 6ed, 1742. Digon tebygol ei fod wedi dechreu cynghori rai blynyddau cyn hyny. Yn 1743, penodwyd ef yn un o arolygwyr y cymdeithasau trwy Fynwy a rhan o Forganwg, ac yn 1744, cawn ganddo adroddiad o sefyllfa y cymdeithasau yr ymwelasai â hwynt. O'r flwyddyn hono, hyd amser ei urddiad yn New Inn, yr ydym heb un hanes am dano, ond y mae yn sicr ei fod wedi llafurio yn ddiwyd trwy y blynyddau hyny, ac yn benaf, yn ol pob tebygolrwydd, yn y New Inn a'r gymydogaeth. Mae hanes y rhan ddiweddaf o'i oes yn hynod a difrifol iawn, os yw yn wir. Dywedir ei fod wedi pregethu yn y New Inn foreu y Sabboth, ac yn yr hwyr yn nhŷ Mr. Jayne, un o'r aelodau, yr hwn oedd yn byw rhwng Pontypool a Blaenafon. Cysgodd yn y tŷ lle y buasai yn pregethu y noswaith hono, ac yn fore iawn bore dranoeth, daeth meistr tir Mr. Jayne yno, a milwr gydag ef, a gofynodd pa le yr oedd y pregethwr; atebwyd ei fod heb gyfodi o'i wely. Mynodd y gwr a'r milwr fyned i'w ystafell wely, a chawsant ef yn cysgu. Dynoethodd y milwr ei gleddyf, ac ysgydwodd ef uwch ei ben, gan waeddi, "Deffro Heretic." Deffrodd yntau, ac wrth weled fath olygfa arswydus, ac annisgwyliadwy, cafodd gymaint o ddychryn nes y dyrysodd ei synwyrau. Bu yn y cyflwr hwnw am tua blwyddyn, ac yna bu farw.
Dyna yr hanes, fel yr adroddir hi yn y gymydogaeth. Mae yn peri mesur o betrusder i ni. Teimlwn yn anhawdd ei hannghredu, am ei bod cael ei hadrodd gan ddynion parchus a geirwir, y rhai a'u cawsant o enau hen bobl oeddynt yn ddigon hen i gofio yr amser yn yr hwn y cymerodd y peth le, os cymerodd le o gwbl; o'r tu arall, yr ydym yn teimlo anhaws—der mawr i'w chredu, oblegid na ddarfu i neb yn yr oes hono gofnodi am—gylchiad mor hynod. Yr ydym yn gadael yr hanes i'r darllenydd i'w dderbyn neu ei wrthod fel y tueddir ei feddwl. A ganlyn yw y cwbl a ddywedir am Morgan John Lewis gan Edmund Jones, yn hanes plwyf Aberystruth: "Efe a fu am beth amser yn gynghorwr selog ac egwyddorol yn mysg y Methodistiaid, ond o'r diwedd aeth yn weinidog i nifer o Fethodistiaid, y rhai a ymffurfiasent yn eglwys Annibynol mewn lle tua thair milldir islaw Pontypool, a'r rhai ydynt yn awr yn eglwys lewyrchus dan ofal y Parchedig Mr. Abraham Williams. Yr oedd efe yn bregethwr grymus; yn un o wybodaeth a meddwl treiddgar mewn pethau dwyfol; o gymmeriad difrycheulyd; ond ystyrid ef i fesur yn rhy erwin yn ei ffordd, ac yn rhy barod i feio. Ryw faint o amser cyn ei farwolaeth syrthiodd i bruddglwyf dwfn, ond ychydig cyn ei farw dywedodd ei fod yn cael cysur oddiwrth yr adnodau diweddaf o'r wythfed bennod o'r epistol at y Rhufeiniaid. Y mae yntau hefyd wedi marw er's amryw fynyddau yn ol." Bu farw, fel yr ydym ni yn tybied, tua y flwyddyn 1757 neu 1758, a chladdwyd ef, meddir, yn mynwent Aberystruth.
ABRAHAM WILLIAMS. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Pontyfelin, yn mhlwyf Panteg, Mynwy, yn y flwyddyn 1720. Yr oedd ganddo ddawn rhagorol i ganu, ac ymddengys ei fod yn deall cerddoriaeth yn dda. Byddai yn ei ieuengetyd yn myned oddiamgylch o blwyf i blwyf i ddysgu pobl i ganu Salmau. Dywedir mai trwy weinidogaeth Morgan John Lewis yr ennillwyd ef at grefydd. Wedi iddo ddyfod yn grefyddol rhoddodd heibio fyned oddiamgylch i gadw ysgolion can, ac ymroddodd yn fwy at weddio o hyny allan. Dechreuodd bregethu yn fore, oblegid y mae ei enw yn nghofnodion Trefecca fel "cynghorwr" yn y flwyddyn 1744, ac yn ol yr hyn a gofnodir ar ei gareg fedd, yr oedd yn bregethwr cyhoeddus, o