leiaf flwyddyn cyn hyny. Bu yn pregethu yn y New Inn a Brynbiga am ddeugain mlynedd, ond dywedir mai am bum' mlynedd ar hugain y bu yn weinidog yn y New Inn, ac felly mae yn rhaid mai yn 1758 yr urddwyd ef. Fel pregethwr cynnorthwyol, gan hyny, y pregethai yno am y pym—theg mlynedd blaenorol. Priododd âg unig ferch John Morgan, Yswain, o'r Ystafarnau, gerllaw Brynbiga, ac yn y lle hwnw y bu yn byw hyd derfyn ei oes. Bu farw Medi 3ydd, 1783, yn 63 oed, a chladdwyd ef mewn daeargell yn y capel y buasai yn offerynol i'w adeiladu yn Mrynbiga. Mae Phillip Dafydd, yn ei ddyddlyfr am Medi 17eg, 1783, ar ol cofnodi marwolaeth Thomas Lewis, Llanharan, yr wythnos flaenorol, yn ysgrifenu, "Heddyw y clywais fod Mr. Abraham Williams wedi ei gladdu. Rhwyg ar rwyg: dau weinidog yn cael eu symud o fewn pythefnos i'w gilydd. Yr wyf fi yn meddwl fod Abraham Williams yn fwy uniawngred (hyny yw, yn fwy o Ymneillduwr, ac yn llai o Fethodist, yn ddiau a olygai yr ysgrifenydd) na llawer, ac yr wyf yn gobeithio fod ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel."
Mae yn ymddangos fod Abraham Williams yn ddyn llafurus a defnyddiol iawn, ac yn bregethwr nodedig o alluog. Byddai yn pregethu yn lled fynych yn Mhenmain, a chanmolir ei bregethau yn fawr gan Phillip Dafydd, yr hwn nid oedd yn barod iawn i ganfod unrhyw ragoriaeth mewn neb ag a fuasai yn gogwyddo yn y mesur lleiaf at Fethodistiaeth. Cawn y cofnodiad canlynol yn ei ddyddlyfr am Tachwedd 9fed, 1766:—"Cefais fy arbed i bregethu heddyw gan Mr. Abraham Williams, yr hwn a bregethodd oddiwith Heb. iv. 14; pregeth dda a sylweddol iawn, y fwyaf alluog a wrandewais i er's llawer o amser,"
Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru, "Nad oedd Mr. A. Williams yn dal llawer o undeb âg un corff o grefyddwyr, ond cymaint ag oedd gyda'r Methodistiaid yr oedd," ond nid yw yn dyweyd yn iawn. Annibynwr trwyadl ydoedd, ac a'r Annibynwyr braidd yn unig yr ymgyfeillachai trwy holl dymor ei weinidogaeth yn y New Inn. Bu am flynyddau yn derbyn cymhorth blynyddol o'r Drysorfa Gynnulleidfaol yn Llundain, ac nis gallasai gael dim oddiyno heb ei fod yn cael ei gydnabod gan weinidogion y sir fel gweinidog Annibynol.
DANTEL JAMES. Cafodd ef ei eni a'i ddwyn i fyny mewn lle a elwir y Bryncoch, yn mhlwyf Maesaleg, gerllaw y Casnewydd, ac ymddengys mai yno y treuliodd ei oes, ac y bu farw. Dywedir fod yr enwog Whitefield wedi bod yn lletya amryw weithiau yn y Bryncoch, a chan y dywedir fod Mr. James yn y flwyddyn 1791 "wedi myned yn mlaen yn mhell mewn dyddiau," mae yn naturiol i ni gasglu ei fod yn un o'r rhai a ddechreuasant yr achos yn y New Inn. Yr ydym yn tybied iddo gael ei urddo yn gynnorthwywr i Mr. Abraham Williams tua y flwyddyn 1760, pryd y symudodd Mr. William Williams i'r Aber. Dywedir mai yn mynwent eglwys Maesaleg y claddwyd ef, ond er chwilio coflyfr y claddedigaethau yno, yr ydys wedi methu cael hyd i'w enw ef yn mysg y rhai a gladdwyd yno o 1794 hyd 1802, ac nid ymddengys ychwaith fod careg wedi cael ei gosod ar ei fedd. Treuliodd ei holl fywyd heb briodi, ac felly dygwyddodd tynged gyffredin "hen langciau" iddo yntau, sef cael ei adael i syrthio i ebargofiant. Yr oedd yn fyw yn 1796, oblegid yr ydym yn cael ei fod yn pregethu yn Heol-y-felin, Casnewydd, Awst 17eg, yn y flwyddyn hono. Pa cyhyd y bu fyw ar ol hyny, nis gwyddom.
Er nad oedd Mr. James yn helaeth yn ei ddoniau fel pregethwr, yr oedd