ei ffyddlondeb, ei ddiwydrwydd, ei dduwioldeb, a'i safle uchel fel gwladwr, yn ei wneyd yn barchus a defnyddiol iawn. Dywedir ei fod yn feddyg rhagorol, a pha le bynag y cyhoeddesid ef i bregethu buasai pob claf a allasai symud o'i wely yn dyfod i'r oedfa, er mwyn cael cyfle i ymgynghori a'r pregethwr am ei anhwyldeb corfforol. Nid y werin anwybodus yn unig oedd yn mawrygu ei wybodaeth feddygol, ond dywedir y byddai un o brif feddygon y Casnewydd yn ei gymeryd yn fynych gydag ef i weled rhyw achosion nodedig er mwyn ymgynghori ag ef.
EDWARD FRANCIS. Ymunodd ag eglwys y New Inn yn ieuangc. Nis gwyddom pa bryd y dechreuodd bregethu. Ymddengys mai Awst 7fed, 1785, oedd y tro cyntaf iddo ymweled â Phenmain. Ysgrifena Phillip Dafydd gyferbyn ar diwrnod hwnw yn ei ddyddlyfr, "Bum yn Mhenmain heddyw, ond cefais fy arbed i bregethu gan Edward Francis, gwr ieuangc sydd yn perthyn i gynnulleidfa y New Inn. Ni allaswn i glywed ond y peth nesaf i ddim, am fy mod wedi cael anwyd trwm, ond hysbyswyd fi gan y rhai a'i clywsant, iddo bregethu yn dda. Ei destyn oedd Mat. xi. 29." Mae yn ymddangos iddo foddio y bobl yn dda, oblegid cofnodir iddo fod yno drachefn Medi 11eg, o'r un flwyddyn, a phregethu i gynnulleidfa fawr, oddiwrth Mat. xvi. 26. Bu yno y drydedd waith, Hydref 23ain, a phregethodd yn weddol dda," oddiwrth Mat. v. 3. Y tro nesaf yr ymwelodd â Phenmain oedd Ebrill 9fed, 1786, a'r tro hwn aeth ychydig yn is yn nghyfrif yr hen weinidog. Ysgrifena, "Bum heddyw yn Mhenmain, a phregethodd y gwr ieuangc Edward Francis yno. Ei destyn oedd Deut. xxxii. 10—testyn llawn o fater, ond ni ddarfu iddo ef sefyll yn ddigon agos gyda ei destyn. Yn yr hwyr clywais ef drachefn yn nhy William Williams, yn pregethu oddiwrth Dat. ii. 10. Mae ei ddull o draddodi yn debyg i'r Methodistiaid yn gyffredin:—peidio sefyll ar unrhyw bwnge mewn duwinyddiaeth, ond crwydro o'r naill beth i'r llall." Etto ar y 9fed o Orphenaf, pregethodd yno oddiwrth Caniadau ii. 15. Ond yr oedd yr hen weinidog yn rhy fyddar y waith hon i glywed dim, ac felly dywed nas gallasai roddi ei farn ar y bregeth. Bu yno unwaith drachefn cyn diwedd y flwyddyn 1786, ac yr oedd y gwrandawyr yn lluosog. Dengys hyn fod y gwr ieuangc yn boblogaidd iawn. Gresyn gan hyny na fuasai yn cadw ei wisgoedd yn lân. Yr ydym yn lled sicr mai yn y flwyddyn 1786 yr urddwyd ef, ac iddo golli ei le yn 1789, neu ddechreu 1790. Cafodd ei adferu drachefn i fod yn aelod ac yn bregethwr; yna symudodd i Lundain, lle y bu am rai blynyddau, yn pregethu i'r Cymry yn Lambeth. Dychwelodd i Gymru yn 1799, a bu yn weinidog derbyniol a llwyddianus iawn yn Machynlleth dros oddeutu tair blynedd, yna aeth yn ol i Lundain. Dywedir i Dr. Lewis, y pryd hwnw o Lanuwchllyn, ddyweyd wrtho, os ymadawai o Fachynlleth, lle yr oedd mor llwyddianus, y buasai yn digio yr Arglwydd, ac na ddeuai daioni byth o hono. Mae yn debygol i brophwydoliaeth y Dr. gael ei chyflawni, oblegid nid ymddengys iddo fod o fawr ddefnydd yn un lle mwyach. Yr ydym yn barnu nad arosodd yn hir yn Llundain yr ail waith, ond iddo ddychwelyd i Fynwy, ac mai yno y bu farw. Yr ydym yn cael ei enw yn hen lyfr eglwys Heol-y-felin, Casnewydd, fel pregethwr achlysurol yno o 1806 hyd Mai 24ain, 1818. Mae yn debygol iddo farw yn fuan ar ol hyn.
THOMAS WALTERS. Ganwyd ef yn mhlwyf Mynyddislwyn, yn y flwyddyn 1761. Ymunodd a chrefydd yn lled ieuangc yn y Tynewydd, Mynyddislwyn. Yr oedd eglwys y Tynewydd y pryd hwnw dan ofal gweinidog-