aethol ei ewythr Mr. Thomas Walters, ac yn ryw haner Methodistiaid. Yn fuan wedi iddo ef ddechreu pregethu ymgysylltodd yn fwy a'r Methodistiaid nag a'r Annibynwyr, ac yn eu plith hwy yn benaf y bu yn pregethu, hyd nes iddo dderbyn galwad gan eglwys y New Inn, i fod yn gynnorthwywr i'w hen weinidog, Mr. Daniel James. Urddwyd ef yno gan weinidogion yr Annibynwyr, ond nis gwyddom pa flwyddyn, yr ydym yn tybied mai tua y flwyddyn 1793 yr urddwyd ef. Bu eglwys y Tŷ-newydd, yn gystal a'r New Inn, dan ei ofal o 1794, pryd y bu farw ei ewythr, hyd 1811, pryd yr urddwyd Mr. William George yno. Yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth bu yn llafurus, ac i fesur yn llwyddianus, ond wedi hyny ymroddodd mor llwyr i ymdrafiaethau bydol, fel yr aeth agos yn hollol ddiwerth fel gweinidog. Cafodd ei siomi yn ei ddisgwyliadau oddiwrth y byd presenol, a bu farw yn gymharol dlawd. Tua phedair blynedd cyn ei farwolaeth ymunodd drachefn a'r Methodistiaid, a bu yn pregethu ychydig yn eu mysg hyd derfyn ei oes. Bu farw yn Cwmdows, Mynyddislwyn, Tachwedd 2il, 1821, yn 60 oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys Mynyddislwyn.
Yr oedd Mr. Walters yn nechreuad ei fywyd cyhoeddus yn bregethwr melus ac effeithiol iawn, a diau y buasai yn un o'r dynion mwyaf defnnyddiol yn ei oes pe buasai yn ymgysegru yn llwyrach i wasanaeth ei Arglwydd. "Ymddengys iddo gael grodd o adnewyddiad i'w ysbryd cyn ymadael ar byd hwn, gan y dywedir iddo farw yn orfoleddus iawn, gan ddiolch yn wresog am drysor gwell yn y nef na dim a fedd y ddaear hon."[1]
BENJAMIN MOSES. Ganwyd ef yn ardal Tynygwndwn, sir Aberteifi, derbyniodd ei addysg yn athrofâau y Neuaddlwyd a Llanfyllin; ac urddwyd ef yn y New Inn, Ionawr 6ed, 1820. Bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef yn mhen dwy flynedd am nad oedd. yn bucheddu yn addas. Wedi ymadael o'r New Inn aeth i Abertawy, a phriododd yno ag un Mrs. Edwards, tafarnwraig, yr hon a gadwai y Tymelyn. Derbyniwyd ef yn aelod i Ebenezer, Abertawy, a bu yn pregethu yn achlysurol yno, ac mewn rhai manau eraill hyd ddiwedd ei oes. Bu farw ar ol cystudd byr Mai 16eg, 1829, a chladdwyd ef yn mynwent Ebenezer, Abertawy. Dywedir ei fod yn bregethwr derbyniol iawn. Priododd ei weddw a'r nodedig Shadrach Davies.
DAVID DAVIES. Mae Mr. Davies yn enedigol o ardal Rhydybont, sir Gaerfyrddin. Disgyna oddiwrth henafiaid enwog am eu duwioldeb. Derbyniwyd ef yn ieuangc yn Rhydybont gan Mr. Jonathan Jones, ac yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu aeth i athrofa y Neuaddlwyd, ac oddi-yno i'r New Inn, lle yr urddwyd ef Mawrth 27ain, 1823. Yr oedd trefn cyfarfodydd yr urddiad fel y canlyn: Prydnawn ddydd Mercher, am 3, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Jenkins, Brychgoed, a phregethodd y Meistriaid D. Griffiths, Castellnedd, oddiar Sal. iii. 8; T. Davies, Cymmar, oddiar Dat. i. 5; a D. Williams, Llanwrtyd, oddiar Heb. ii. 17. Yn yr hwyr, gweddiodd Mr. D. Stephenson, Rhymni; a phregethodd y Meistriaid H. Heibert, Caerodor, oddiar Mat. xix. 16; a T. Phillips, Neuaddlwyd, oddiar Sal. xvi. 11. Am 10, dydd Iau, gweddiodd Mr. D. Davies, Penywaun; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. T. B. Evans, Ynys—gau; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Lewis, Aber; gweddiodd Mr. E. Jones, Pontypool, yr urddweddi gydag a'r ddodiad dwylaw; pregeth-
- ↑ Methodistiaeth Cymru; Cyf iii tudalen 379